Beth yw Ffeiliau?
Gall Ffeiliau gadw ffeiliau cwrs, aseiniadau, meysydd llafur, darlleniadau neu ddogfennau eraill, yn ogystal â lluniau proffil a ffeiliau sy'n benodol i ddefnyddwyr. Gall addysgwyr gloi ffolderi a ffeiliau fel bod yn rhaid cael dolenni uniongyrchol i allu edrych arnynt, neu fel eu bod yn cael eu datgloi ar ddyddiad penodol.
Mae modd rhoi ffeiliau mewn Modiwlau, Aseiniadau neu Tudalennau. Caiff ffeiliau a ffolderi eu gosod yn nhrefn yr wyddor ac nid oes modd eu haildrefnu.
Bydd defnyddwyr Canvas yn gallu gweld ffeiliau (dogfennau, delweddau, cyfryngau ac ati) mewn tri gwahanol le:
- Ffeiliau personol, ym mhroffil pob defnyddiwr (myfyrwyr, athrawon a cynorthwywyr dysgu)—Gwylio fideo am ffeiliau personol
- Ffeiliau cwrs, ym mhob cwrs (myfyrwyr, athrawon a chynorthwywyr dysgu oni bai fod y ffeiliau wedi’u cloi gan yr athro)—Gwylio fideo am Ffeiliau Cwrs
- Ffeiliau grŵp, ym mhob grŵp (myfyrwyr ac athrawon sydd wedi ymrestru mewn grwpiau)
I ddysgu am fanylion cwota ffeil benodol ar gyfer pob rôl defnyddiwr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cwota Ffeiliau Cwrs.
Pryd fyddwn i'n defnyddio Ffeiliau fel Addysgwr?
Mae modd defnyddio Ffeiliau i wneud y canlynol:
- Rhannu dogfennau cwrs a meysydd llafur â'ch myfyrwyr
- Copïo dogfennau o un cwrs Canvas i un arall
- Trefnu dogfennau cwrs yn ôl diwrnod, wythnos neu uned
- Storio dogfennau personol nad ydych chi am eu rhannu â phobl eraill
Yn eich ffeiliau, mae modd i chi wneud y canlynol:
- Ychwanegu ffolderi
- Llwytho ffeiliau i fyny
- Llwytho ffeil ZIP i fyny neu i lawr
- Symud ffeiliau
- Gweld rhagolwg o ffeiliau
- Cyfyngu ar ffeiliau
- Gweld eich storfa
- Llusgo a gollwng ffeiliau o ffeiliau personol i ffeiliau cwrs
- Gosod hawliau defnyddio ar gyfer ffeiliau a ffolderi.
Pryd fyddwn i’n defnyddio Ffeiliau fel Myfyriwr?
Mae modd defnyddio Ffeiliau i wneud y canlynol:
- Rhannu dogfennau â’ch grŵp neu â myfyrwyr eraill mewn cwrs
- Storio dogfennau personol neu aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno
- Storio lluniau proffil (os yw eich sefydliad yn caniatáu hynny)