Beth yw prosesau mewngludo SIS?

Mae’r nodwedd Mewngludo SIS (SIS Imports) yn caniatáu i chi uwchlwytho ac integreiddio data o lawer o Systemau Gwybodaeth Myfyrwyr (SIS), cronfeydd data cymhleth a hyd yn oed taenlenni syml fel ffeiliau gwerthoedd sydd wedi’u gwahanu gydag atalnodau (CSV). Gall gweinyddwyr ddefnyddio’r nodwedd hon i greu defnyddwyr, cyfrifon, cyrsiau, ymrestriadau, mewngofnodiadau a mwy.

Dim ond gweinyddwyr â’r hawliau cywir all fewngludo a rheoli data SIS. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ddogfen adnodd Hawliau Cyfrif Canvas.

Gwylio fideo am ddefnyddio’r nodwedd Mewngludo SIS (SIS Imports).

Pa bryd fyddwn i’n defnyddio’r nodwedd mewngludo SIS (SIS Imports)?

Gyda’r nodwedd mewngludo SIS, mae modd:

  • Mewngludo data SIS gyda ffeiliau CSV neu fewngludo’n awtomatig drwy API Canvas
  • Mewngludo data SIS gyda ffeiliau zip XML - IMS Enterprise Specification
  • Mewngludo data SIS gydag XML Canlyniadau Cyfnewid Gradd Baner
  • Integreiddio data yn awtomatig gyda Canvas

Mathau o Fewngludo

Mathau o Fewngludo

Mae’r dudalen Mewngludo SIS (SIS Imports) yn delio â rhai fformatau ar gyfer prosesau mewngludo sylfaenol i Canvas: Ffeil zip o ffeiliau CSV neu ffeil CSV wedi’i fformatio gan Instructure, ffeil zip XML IMS Enterprise Specification neu XML Canlyniadau Cyfnewid Gradd Baner.

Mae proses mewngludo sylfaenol yn prosesu newidiadau a restrir yn benodol yn y ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny yn unig, ac mae’n ffordd effeithlon o lwytho ychydig o gofnodion i fyny. Er enghraifft, os yw ymrestriad myfyriwr wedi’i restru fel ymrestriad gweithredol mewn proses mewngludo flaenorol ond heb ei restru felly yn yr ymrestriad presennol, ni fydd ymrestriad y myfyriwr yn newid. Bydd yr ymrestriad yn aros yn weithredol tan iddo gael ei farcio fel ei fod wedi’i ddileu neu wedi’i gwblhau mewn proses mewngludo sylfaenol (neu’n cael ei farcio fel ‘ddim yn bresennol’ mewn diweddariad Llawn ar gyfer y tymor lle rhestrir y cwrs). Ar ddechrau tymor, mae ymrestriadau ar gyrsiau'n newid yn rheolaidd felly mae cyflwyno proses mewngludo safonol yn rheolaidd yn helpu i ddiweddaru ymrestriadau mewn cyfrif.

Wrth lwytho data SIS i fyny gyda ffeiliau CSV, gallwch fewngludo un ffeil testun CSV neu gallwch gywasgu mwy nag un ffeil i un ffeil ZIP drwy fewngludo data mewn swp. Os ydych chi’n defnyddio fformat Instructure ar gyfer mewngludo ffeiliau, dylai'r ffeiliau fod yn y drefn hon: defnyddwyr, cyfrifon, tymhorau, cyrsiau, adrannau, ymrestriadau, a mewngofnodiadau.

Diweddariadau Llawn

Diweddariadau Llawn

Mae Canvas yn delio â diweddariadau llawn ar gyfer pob math o brosesau mewngludo. Bydd yr opsiwn hwn yn effeithio ar ddata sydd wedi bod yn rhan o dasg SIS flaenorol, naill ai data sydd wedi’i greu gan broses mewngludo flaenorol, neu ddata y cyfeiriwyd ato gan dasg SIS ar ôl ychwanegu ID SIS â llaw. Ni fydd cyrsiau sydd wedi’u creu heb ID SIS, er enghraifft, yn cael eu dileu hyd yn oed os nad ydynt yn ymddangos yn y broses mewngludo SIS newydd.

Ar gyfer ymrestriadau, mae’r opsiwn hwn yn golygu bod angen ID SIS ar y cwrs/adrannau a'r defnyddiwr cysylltiedig. Bydd cofnod Canvas yn cael ei ddileu os na fydd yn cael ei gynnwys yn y ffeil mewngludo bresennol.

Mae’r opsiwn hwn yn gallu dileu setiau mawr o ddata heb unrhyw rybudd na neges i gadarnhau hynny ac mae’n effeithio ar ddata sydd wedi’i greu mewn prosesau mewngludo SIS blaenorol.

Mae diweddariadau llawn yn ddefnyddiol yn yr achosion canlynol:

  • Nid oes gan eich meddalwedd SIS ffynhonnell ffordd o anfon cofnodion wedi’u dileu fel rhan o broses mewngludo, ac mae angen i chi dynnu cyfran go lew o’r data sydd wedi’i fewngludo
  • Rhaid i chi sicrhau bod eich ymrestriad presennol a’ch set ddata yn gyson â’ch ymrestriad SIS a’ch data cwrs
  • Nid yw eich SIS yn cofnodi newidiadau i gyflwr y cwrs nac ymrestriadau ar gyfer myfyrwyr a/neu athrawon.
  • Mae angen i chi ddileu cyrsiau rydych chi wedi’u mudo i Canvas i LMS arall.

Modd Swp Sawl Tymor

Os ydych chi am redeg swp yn erbyn pob tymor yn yr un broses mewngludo, mae modd galluogi modd swp sawl tymor. Rhaid galluogi’r modd hwn yn yr API ac mae’n gofyn am drothwy newid fel y nodir yn y Ddogfen Fformat Mewngludo SIS.

Diystyru Rhyngwyneb Defnyddiwr

Diystyru Rhyngwyneb Defnyddiwr

Mae Canvas yn delio ag achosion o ddiystyru rhyngwyneb defnyddiwr drwy fewngludo SIS. Pan fydd defnyddiwr yn gwneud newidiadau i feysydd data penodol yn Canvas (e.e. newid enw nefnyddiwr), mae’r newidiadau hyn yn rhai "gludiog" a’r newidiadau hyn fydd y gosodiadau diofyn newydd. Drwy ddewis yr opsiwn Diystyru Rhyngwyneb Defnyddiwr (Override UI) i ddiystyru unrhyw ddata "gludiog" sydd wedi’i ddiweddaru yn Rhyngwyneb Defnyddiwr Canvas. Fel arall, byddai ymgais i fewngludo data sy'n gwrthdaro yn cael ei hanwybyddu ac ni fyddai data defnyddiwr presennol yn cael ei newid. I weld rhestr lawn o'r meysydd data "gludiog", ewch i weld Dogfennau Fformat Mewngludo SIS.

Gall yr opsiwn hwn fod yn ddefnyddiol yn yr achosion canlynol:

  • Rydych chi wedi anghofio cyfyngu ar opsiynau defnyddwyr yng ngosodiadau'r cyfrif, fel caniatáu defnyddwyr i newid eu henwau, dileu cyfeiriadau e-bost sydd wedi’u rhoi gan y sefydliad ac ati, a’ch bod chi am redeg diweddariad i fod yn siŵr eu bod wedi eu cysoni. NI fydd hyn yn effeithio ar enw arddangos defnyddwyr os ydynt wedi’i newid. Dim ond yr enw llawn a'r enw mewn trefn fyddai'n cael eu newid.
  • Rydych chi wedi caniatáu iddynt newid eu henwau (enghraifft uchod) ar bwrpas, ond rydych chi am gysoni â’ch data presennol bob hyn a hyn.
  • Rydych chi am gadw rheolaeth dros enwau defnyddwyr a chyrsiau, neu os ydych chi’n gwybod bod enw cwrs neu enw defnyddiwr wedi cael ei newid.
Opsiynau Diystyru Rhyngwyneb Defnyddiwr

Mae diystyru newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr yn caniatáu un o ddau opsiwn ychwanegol: prosesu wrth i ryngwyneb y defnyddiwr newid neu glirio cyflwr newydd rhyngwyneb y defnyddiwr.

Prosesu wrth i ryngwyneb y defnyddiwr newid. Mae’r opsiwn hwn yn diystyru newidiadau sydd wedi digwydd yn rhyngwyneb y defnyddiwr fel data "gludiog"; mae'r holl ddata yn ymddwyn fel petai’r newidiadau mewn gwirionedd wedi eu diweddaru â llaw yn rhyngwyneb y defnyddiwr.

Gall yr opsiwn hwn fod yn ddefnyddiol yn yr achosion canlynol:

  • Nid ydych chi am i brosesau mewngludo dilynol ddiystyru'r data rydych chi wrthi’n ei fewngludo.

 

Clirio cyflwr newydd rhyngwyneb y defnyddiwr. Mae’r opsiwn hwn yn cael gwared ar "ludiogrwydd" yr holl ddata sy’n bodoli yn y broses mewngludo hon; ni fydd prosesau mewngludo gyda’r data hwn yn y dyfodol yn dangos unrhyw ddata yn rhyngwyneb y defnyddiwr fel data "gludiog".

Gall yr opsiwn hwn fod yn ddefnyddiol yn yr achosion canlynol:

  • Rydych chi wedi ticio’r opsiwn "Prosesu wrth i ryngwyneb y defnyddiwr newid" (Process as UI changes) yn ddamweiniol ac mae'n rhaid i chi drwsio'r data yr effeithiwyd arno.
  • Rydych chi wedi anghofio rhwystro defnyddwyr rhag ailenwi eu hunain, ailenwi cyrsiau neu gael gwared ar gyfeiriadau e-bost sefydliadol, ac rydych chi am glirio gludiogrwydd y newidiadau i ryngwyneb y defnyddiwr.