Beth yw rôl Cynorthwyydd Dysgu?

Yn Canvas, caiff y rôl Cynorthwyydd Dysgu ei defnyddio gan amlaf i ymrestru unigolion a fydd yn cefnogi ac yn gweithio gydag athrawon mewn cwrs ac sydd ddim angen ennill credyd cwrs. Mae Addysgwyr yn enw arall am Athrawon yn Canvas. Gall cynorthwywyr dysgu weld a safoni cwrs ac arwain prosesau cyfathrebu dyddiol ar y cwrs o dan oruchwyliaeth Athro. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau.

Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio cynorthwywyr dysgu) a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.

Gall Cynorthwywyr Dysgu hefyd ddefnyddio ap Canvas Teacher i weld a chymryd rhan mewn cyrsiau.

Defnyddio Rôl Cynorthwyydd Dysgu

Prif ddefnydd y rôl Cynorthwyydd Dysgu yw cefnogi addysgwr cwrs. Gall cynorthwywyr dysgu greu deunyddiau ar gyfer cwrs, rheoli a chael mynediad at ddeunyddiau cyrsiau Canvas, ac ymgysylltu â phobl eraill sydd wedi ymrestru ar y cwrs. Er enghraifft, weithiau mae addysgwyr yn defnyddio cynorthwywyr dysgu i raddio aseiniadau mewn cyrsiau sydd â llawer o fyfyrwyr wedi ymrestru arnynt.

Mae mynediad cynorthwywyr dysgu at gyrsiau Canvas yn dibynnu ar y sefydliad. Gall Cynorthwywyr Dysgu gael mynediad at gyrsiau blaenorol, rhai presennol a rhai i’r dyfodol. Hefyd, dim ond mewn cyrsiau unigol y bydd modd i gynorthwywyr dysgu ymrestru a chael mynediad. Gall cynorthwyydd dysgu ymrestru ar gwrs yn awtomatig drwy fewngludo SIS neu gall addysgwr wneud hynny ei hun.

Mynediad Cynorthwyydd Dysgu yn Canvas

Gall sefydliad addasu rhywfaint o hawliau cynorthwyydd dysgu ar lefel cwrs. Mae gan gynorthwywyr dysgu fynediad at gyrsiau Canvas fel y nodir yng Nghanllaw Addysgwyr Canvas.  

Mae Cynorthwywyr Dysgu yn gallu:

  • Ychwanegu a dileu rhaglenni allanol (LTI) ar gyfer cwrs
  • Creu cynadleddau a chydweithrediadau myfyrwyr
  • Creu a golygu cyfarwyddiadau sgorio
  • Addasu dolenni yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs
  • Dileu a chloi trafodaethau a golygu negeseuon pobl eraill mewn trafodaethau
  • Cynhyrchu cod paru arsyllwr ar gyfer myfyrwyr
  • Rheoli aseiniadau, cwisiau, tudalennau a ffeiliau cyrsiau, yn ogystal â phob cynnwys cwrs arall
  • Rheoli eitemau mewn calendr cwrs, gan gynnwys apwyntiadau Trefnydd
  • Ychwanegu myfyrwyr at gwrs â llaw
  • Anfon negeseuon at ddefnyddwyr cyrsiau eraill ac at holl aelodau cwrs
  • Gweld rhestr o’r defnyddwyr mewn cwrs
  • Gweld tudalennau pob grŵp o fyfyrwyr ar gyfer cwrs
  • Gweld cyflwyniadau myfyrwyr a gwneud sylw arnynt
  • Gweld a golygu graddau
  • Gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
  • Gweld dadansoddiadau cwrs
  • Gweld cyhoeddiadau a thrafodaethau'r cwrs
  • Gweld adroddiadau defnyddio'r cwrs

Dydi cynorthwywyr dysgu ddim yn gallu:

  • Ychwanegu, golygu neu ddileu deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cwrs
  • Creu, golygu a dileu rhannau o gyrsiau
  • Creu, golygu a dileu grwpiau o fyfyrwyr
  • Cyhoeddi, cwblhau a dileu cyrsiau
  • Darllen data SIS
  • Gweld llwybr archwilio graddau

Cyfyngiadau ar Gynorthwywyr Dysgu

  • Ni all cynorthwywyr dysgu weld cynnwys ar gyfer cwrs oni bai eu bod wedi ymrestru arno.
  • Ni all cynorthwywyr dysgu gyflwyno gwaith ar ran myfyrwyr na chyflwyno graddau terfynol ar gyfer myfyrwyr.