Beth yw cynlluniau graddio?
Mae cynllun graddau yn set o feini prawf sy'n mesur lefelau amrywiol o gyflawniad mewn cwrs. Mae cynlluniau graddau lefel cyfrif yn gynlluniau graddau y gellir eu diffinio ar lefel y cyfrif neu ar lefel isgyfrif ar gyfer y sefydliad cyfan. Ar lefel cwrs, gall addysgwyr ddefnyddio cynlluniau graddau yng nghyswllt graddau terfynol myfyrwyr ac aseiniadau unigol. Heb gynllun graddau, nid yw’r sgorau’n cael eu mesur yn erbyn unrhyw safon benodol.
Gwylio fideo am Gynlluniau Graddau.
Sylwch:
- Mae cynlluniau graddau lefel cyfrif yn ymddangos yn awtomatig ym mhob cwrs yn y cyfrif. Pan fydd addysgwr yn cysylltu cynllun graddau sydd wedi’i greu ar lefel y cyfrif, caiff y cynllun graddau ei gysylltu, nid ei fewngludo, fel cynllun newydd ar lefel y cwrs. Mae cynlluniau graddau sy’n cael eu mewngludo o lefel y cyfrif yn gallu cael eu haddasu ddefnyddwyr sydd â hawliau cynlluniau graddau yn unig.
- Mae cynlluniau graddau sydd wedi’u creu ar lefel y cyfrif yn ymddangos yn awtomatig ar lefel yr isgyfrifon.
Cynlluniau Graddio Cyffredin
Caiff cynlluniau graddau eu llunio ar sail ystodau o ganrannau ac mae pob ystod o ganrannau yn cael gwerth enw. Mae modd creu unrhyw fath o gynllun graddau drwy olygu'r enw a'r ystod o ganrannau ar gyfer pob eitem.
Nodiadau am Gynlluniau Graddio:
- Ni all cynlluniau graddau ddelio â mwy na dau le degol.
- Dim ond sgorau sydd wedi’u diffinio yn y cynllun graddau sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau (Gradebook).
- Mae cofnodion yn y Llyfr Graddau nad ydynt wedi’u diffinio'n benodol yn y cynllun graddau yn dangos dash.
- Gall cynllun graddau sy’n cael ei ddefnyddio gael ei archifo ac yna ei adfer i gyflwr gweithredol.
- Ni all cwrs neu aseiniad ddefnyddio cynllun graddio wedi’i archifo yn y dyfodol, oni bai fod y cynllun yn cael ei adfer.
- Does dim modd archifo cynllun graddau diofyn Canvas.
- Wrth gopïo neu allgludo cwrs, nid yw cynlluniau graddio diofyn wedi'u harchifo yn cael eu copïo na'u hallgludo.
- Nid yw golygu enw a disgrifiad o gynlluniau graddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn caniatáu golygu i ganrannau neu bwyntiau yn y cynllun graddau.
- O ran cynllun graddau a sefydlwyd ar lefel y cwrs, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cyfrif.
- O ran cynllun graddau a grëwyd ar lefel y cyfrif, ni ellir eu dileu, eu harchifo na’u golygu ar lefel y cwrs.
Graddau Llythyren
Graddau Llythyren yw’r math mwyaf traddodiadol o gynllun graddio a dyma’r fformat diofyn ar gyfer cynlluniau graddio newydd. Cofiwch, dim ond sgorau y mae modd delio â nhw sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau felly, os ydych chi’n llunio cynllun gradd llythyren gyda gwerthoedd enw ar gyfer A, B ac C yn unig, ni allwch roi sgôr sy'n trosi'n A- neu'n B+.
Yn y Llyfr Graddau, caiff sgorau eu rhoi yn ôl gwerth pwynt, canran neu radd llythyren. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn ymddangos fel A-, fel y diffinnir yn yr ystod o ganrannau). Mae modd rhoi A- yn uniongyrchol hefyd.
Graddfa GPA
Mae Dull Graddio’r Raddfa GPA wedi’i gynllunio ar gyfer ysgolion sy’n defnyddio graddfa 4.0 (neu 5.0/6.0). Gall cyfrifiadau Graddfa GPA amrywio yn ôl sefydliad. Mae’r cynllun hwn yn debyg i’r cynllun Gradd Llythyren ond mae modd defnyddio graddau llythyren hefyd. Cofiwch, dim ond sgorau a y mae modd delio â nhw sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau felly, os ydych chi’n llunio cynllun GPA gyda gwerthoedd enw ar gyfer 4.0 a 3.9 yn unig, fydd dim modd rhoi sgôr ar gyfer 3.95.
Yn y Llyfr Graddau, caiff sgorau eu rhoi yn ôl canran neu werth GPA. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 90% (a fydd yn ymddangos fel 3.7, fel y diffinnir yn yr ystod o ganrannau). Mae modd rhoi 3.7 yn uniongyrchol hefyd. Ni fydd modd rhoi 9.
Perfformiad
Mae cynlluniau graddau perfformiad yn seiliedig ar safon perfformiadau unigol. Cofiwch, dim ond sgorau y mae modd delio â nhw sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau felly, os ydych chi’n llunio cynllun perfformiad gyda’r gwerthoedd enw Ardderchog (Excellent) a Gwael (Poor) yn unig, fydd dim modd rhoi sgôr ar gyfer Da (Good).
Yn y Llyfr Graddau, caiff sgorau eu rhoi yn ôl pwyntiau neu werth perfformiad. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn ymddangos fel Ardderchog, fel y diffinnir yn yr ystod o ganrannau). Mae modd rhoi Ardderchog (Excellent) yn uniongyrchol hefyd.