Beth yw’r rôl Dylunydd?
Yn Canvas, caiff y rôl Dylunydd ei defnyddio i ymrestru defnyddwyr sy'n gyfrifol am greu a rheoli cwrs. Yn gyffredinol, mae gan ddefnyddwyr sydd â rôl Dylunydd hawliau er mwyn iddyn nhw allu creu a dewis cynnwys cwrs a gweld data defnyddio’r cwrs. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau.
Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio Cynorthwywyr Dysgu) a gyda’i gilydd maent yn rheoli cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.
Gall Dylunwyr hefyd ddefnyddio ap Canvas Teacher i weld rhywfaint o gynnwys cyrsiau gan gynnwys cyhoeddiadau, aseiniadau, trafodaethau, a Chwisiau Clasurol.
Gall gweinyddwr fynd ati’i hun i ymrestru dylunydd ar gwrs, neu gellir gwneud hynny'n awtomatig drwy broses fewngludo SIS.
Defnyddio Rôl Dylunydd
Gall Dylunwyr greu deunyddiau ar gyfer cyrsiau, gweld data am ddefnyddio cyrsiau yn ogystal â rheoli a chael mynediad at holl feysydd cyrsiau Canvas. Er enghraifft, gellir ychwanegu dylunydd at gwrs gyda rôl Dylunydd i greu cwrs ar ran yr athro.
Bydd rôl Dylunydd yn caniatáu i ddefnyddiwr wneud y canlynol:
- Creu ac addasu cynnwys cyrsiau
- Ychwanegu ymrestriadau myfyriwr yn y cwrs eich hun
- Cyfathrebu â chyfranogwyr y cwrs
- Cael mynediad at adroddiadau defnydd ar gyfer cwrs
- Monitro a safoni cyfranogiad a rhyngweithiadau’r holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs
Mynediad Dylunydd yn Canvas
Yn ddiofyn, bydd gan ddefnyddwyr sydd â rôl Dylunydd fynediad at holl feysydd cynnwys mewn cwrs Canvas. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau. I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad Dylunydd yn Canvas, edrychwch y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.
Gall Dylunydd:
- Ychwanegu a dileu rhaglenni allanol (LTI) ar gyfer cwrs
- Ychwanegu, golygu a dileu aseiniadau, Cwisiau Clasurol, tudalennau a ffeiliau cyrsiau a phob cynnwys cwrs arall
- Ychwanegu, golygu a dileu eitemau mewn calendr cwrs, gan gynnwys apwyntiadau'r Trefnydd
- Ychwanegu, golygu neu ddileu deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cwrs
- Creu, gweld a phostio cyhoeddiadau a thrafodaethau mewn cwrs
- Creu a golygu cyfarwyddiadau sgorio
- Creu cynadleddau a chydweithrediadau myfyrwyr
- Creu, golygu a dileu adrannau a grwpiau o fyfyrwyr mewn cyrsiau
- Dileu a chloi trafodaethau a golygu negeseuon pobl eraill mewn trafodaethau
- Cyhoeddi, cwblhau a dileu cyrsiau
- Anfon negeseuon at ddefnyddwyr cyrsiau eraill ac at holl aelodau cwrs
- Gweld tudalennau pob grŵp o fyfyrwyr ar gyfer cwrs
- Gweld cyflwyniadau myfyrwyr a gwneud sylw arnynt
- Gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
- Gweld a rheoli ymrestriadau myfyriwr ar gyrsiau
- Gweld adroddiadau defnyddio'r cwrs
Does dim modd i Ddylunydd:
- Adeiladu Cwisiau Newydd
- Greu cwrs Glasbrint
- Newid tymor y cwrs cysylltiedig
- Cynhyrchu cod paru arsyllwr ar gyfer myfyrwyr
- Ffugio fel defnyddiwr arall mewn cwrs
- Darllen data SIS
- Creu dilysiad trydydd parti ar gyfer cwrs
- Dad-ddirwyn cwrs
- Llwytho ymrestriadau myfyrwyr i fyny drwy fewngludiadau SIS
- Gweld a rheoli’r broses o ymrestru athrawon, dylunwyr cwrs eraill, a chynorthwywyr dysgu ar gwrs
- Gweld dadansoddiadau cwrs
- Gweld logiau newid cwrs
- Gweld llwybr archwilio graddau
- Gweld, safoni a golygu'r holl raddau
Cyfyngiadau ar y Rôl Dylunydd
- Ni all Dylunwyr addasu argaeledd unrhyw rai o'r hawliau uchod. Dim ond gweinyddwyr all addasu'r swyddogaethau hyn.
- Mae Dylunwyr yn gallu creu, addasu a safoni cynnwys ar gyfer cyrsiau maent wedi ymrestru arnynt yn unig.
- Dim ond defnyddwyr sydd â hawliau gweinyddol sy’n gallu mewngludo data SIS. Ni all Dylunwyr fewngludo data SIS.