Beth yw e-Bortffolios?
Mewn e-Bortffolio, gallwch ddangos a thrafod y cyflwyniadau a’r profiadau arwyddocaol rydych chi’n dod ar eu traws yn ystod eich proses ddysgu. Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n addysgwr sydd wedi ymrestru ar gwrs, gallwch greu nifer diderfyn o e-Bortffolios er mwyn casglu a dogfennu eich cyflwyniadau, eich profiadau a’ch prosiectau addysgol, ac unrhyw waith arall. Gallwch gadw e-Bortffolios yn breifat neu eu rhannu â myfyrwyr, addysgwyr a/neu ddarpar gyflogwyr eraill.
Yn Canvas, mae e-Bortffolios yn aros yn weithredol cyhyd â bod y defnyddiwr yn System Gwybodaeth Myfyrwyr (SIS) y sefydliad a bod ganddo fanylion mewngofnodi. Mae e-Bortffolios wedi’u clymu i’ch proffil defnyddiwr, ac nid i gwrs penodol.
Pryd fyddwn i’n defnyddio e-Bortffolios?
Mae modd defnyddio e-Bortffolios i wneud y canlynol:
- Creu nodiadau addysgol ar-lein ar gyfer myfyrio
- Creu safle ar-lein y gellir ei gyflwyno fel Aseiniad ar-lein
- Dangos meistrolaeth o Ddeilliannau cwrs
- Rhannu eich gwaith gorau o fwy nag un cwrs
- Arddangos gwaith o safon proffesiynol ar gyfer darpar gyflogwyr
Alla i allgludo e-Bortffolios?
Gallwch. Gall myfyrwyr ac addysgwyr allgludo e-Bortffolios i ffeil zip. Mae gweinyddwyr yn gallu llwytho adroddiad o bob eBortffolio mewn cyfrif i lawr o’r dudalen Gosodiadau Cyfrif.
Sut mae dechrau arni?
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, clicio’r ddolen Cyfrif (Account) [1], ac yna clicio’r ddolen e-Bortffolios (ePortfolios) [2].
Clicio’r botwm Creu e-Bortffolio (Create an ePortfolio).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer creu e-Bortffolio fel myfyriwr neu greu e-Bortffolio fel addysgwr.
Nodyn: Os nad ydych yn gallu gweld y ddolen e-Bortffolio yn eich Cyfrif Defnyddiwr, mae eich sefydliad wedi analluogi'r nodwedd hon.