Beth yw banciau cwestiynau?

Mae modd i chi greu Banciau Cwestiynau ar lefel cyfrif ac ar lefel isgyfrif yn eich fersiwn chi o Canvas. Mae hyn yn caniatáu i bawb yn y cyfrif weld y cwestiynau.

Gweld fideo am Fanciau Cwestiynau.

Agor Banciau Cwestiynau

Agor Banciau Cwestiynau

Mae banciau cwestiynau lefel cyfrif yn fanciau cwestiynau sydd wedi’u creu ac sy'n cael eu storio ar lefel y cyfrif. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr weld a defnyddio cynnwys cyffredinol ar gyfer cwisiau.

Pa Bryd Fyddwn i’n Defnyddio Banciau Cwestiynau ar Lefel Cyfrif?

Pa Bryd Fyddwn i’n Defnyddio Banciau Cwestiynau ar Lefel Cyfrif?

Mae modd defnyddio banciau cwestiynau ar lefel cyfrif i greu storfa gwestiynau ar gyfer sefydliad neu adran. Er enghraifft, os yw’r adran Saesneg yn cynnig sawl cwrs sy’n dysgu rheolau gramadeg cyffredinol i fyfyrwyr, gall yr adran greu banc cwestiynau ar lefel isgyfrif. Yna, gall addysgwyr weld y banciau cwestiynau er mwyn cynnig yr un gwerthusiad i fyfyrwyr mewn cyrsiau gwahanol.