Beth yw Graddau Beth-os?
Mae Graddau Beth os yn gadael i fyfyrwyr gyfrifo eu gradd gyflawn drwy roi graddau damcaniaethol ar gyfer aseiniadau. Dim ond myfyrwyr fydd yn gallu rhoi a gweld Sgorau Beth-os. Os ydych chi’n fyfyriwr, gallwch chi ddysgu sut i ddefnyddio Sgorau Beth-os.
Sylwch:
- Os oes mwy nag un Cyfnod Graddio wedi’i alluogi yn eich dwrs a does dim modd i ddefnyddwyr weld y graddau cyflawn, neu os oes addysgwr wedi wedi cuddio cyfanswm graddau myfyrwyr yng Ngosodiadau'r Cwrs, does dim modd i fyfyrwyr weld eu gradd bresennol na'u gradd gyflawn ar dudalen Graddau Myfyrwyr.
- Does dim modd i addysgwyr ddefnyddio Sgorau Beth-os i greu sgorau damcaniaethol ar gyfer myfyrwyr. Ond, gall addysgwyr weld sgorau presennol a sgorau cyflawn y myfyrwyr drwy edrych ar yr Adroddiad Rhyngweithio â Myfyrwyr (Student Interactions Report).
Gweld Gradd Bresennol
Mae Canvas bob amser yn cyfrifo dwy radd ar gyfer myfyrwyr: y gradd bresennol (sy’n seiliedig ar aseiniadau sydd wedi’u graddio) a’r radd gyflawn (sy’n seiliedig ar yr holl aseiniadau).
Pan fydd myfyrwyr yn edrych ar eu graddau, bydd y radd bresennol yn ymddangos [1]. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau sydd wedi eu graddio yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Caiff y radd bresennol ei chyfrifo â'r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) sydd wedi’i ddewis [2].
Sylwch: Os yw addysgwr wedi cuddio’r graddau cyflawn yng Ngosodiadau’r Cwrs, does dim modd i fyfyrwyr weld eu gradd bresennol nac unrhyw ganrannau mewn grwpiau aseiniadau.
Gweld Gradd Gyflawn
I weld y radd gyflawn sy’n seiliedig ar yr holl aseiniadau, gall myfyrwyr dynnu'r tic o’r blwch ticio Cyfrifo ar sail aseiniadau sydd wedi’u graddio yn unig (Calculate based only on graded assignments) [1]
Y radd gyflawn yn ymddanos [2]. Caiff y radd gyflawn ei chyfrifo drwy adio’r aseiniadau at ei gilydd yn unol â’u pwysoliad yng nghynllun graddau’r cwrs. Os yw cwrs yn defnyddio grwpiau aseiniad wedi'u pwysoli, gall myfyrwyr weld hefyd sut mae pob aseiniad wedi'i bwysoli yn y cwrs.
Sylwch: Os yw addysgwr wedi cuddio’r graddau cyflawn yng Ngosodiadau’r Cwrs, does dim modd i fyfyrwyr weld eu graddau cyflawn nac unrhyw ganrannau mewn grwpiau aseiniadau. Ond, mae toglo blwch ticio'r cyfrifiad yn dal yn effeithio ar aseiniadau unigol, megis os yw grŵp o aseiniadau yn cynnwys rheol gollwng.
Rhoi Graddau Beth-os
Mae’r adnodd Beth-os yn gadael i fyfyrwyr gyfrifo eu gradd gyflawn drwy roi graddau damcaniaethol ar gyfer unrhyw aseiniad. I brofi gwahanol sgôr ar gyfer aseiniad, gall myfyrwyr glicio gradd aseiniad a rhoi sgôr yn y golofn sgôr.
Gweld y Cyfanswm wedi’i Ddiweddaru
Gall myfyrwyr weld y sgorau Beth-os damcaniaethol [1] a’r cyfanswm [2].