Beth yw Cwisiau?
Mae Cwisiau yn Canvas yn aseiniadau y mae modd eu defnyddio i herio dealltwriaeth myfyrwyr ac i asesu cynnwys deunyddiau cwrs. Caiff yr adnodd cwis ei ddefnyddio i greu ac i weinyddu cwisiau ac arolygon ar-lein. Mae modd defnyddio cwisiau hefyd i gynnal a safoni arholiadau ac asesiadau, rhai wedi’u graddio a rhai heb eu graddio.
Mae gan Canvas bedwar gwahanol fath o gwisiau:
- Cwis wedi’i raddio yw'r math mwyaf cyffredin o gwis ac mae'n rhoi pwyntiau i fyfyrwyr ar sail eu hymatebion i’r cwis.
- Mae cwis ymarfer yn adnodd dysgu sy'n edrych ar ddealltwriaeth defnyddwyr o ddeunydd cwrs heb roi gradd.
- Mae arolwg wedi’i raddio yn rhoi pwyntiau i fyfyrwyr am gwblhau arolwg ond ni fydd yn cael ei raddio ar sail atebion cywir neu anghywir.
- Mae arolwg heb ei raddio yn sicrhau safbwyntiau neu wybodaeth arall heb roi gradd.
Pa bryd fyddwn i’n defnyddio Cwisiau fel addysgwr?
Mae modd defnyddio Cwisiau i wneud y canlynol:
- Creu cwisiau newydd gyda chwestiynau unigol a grwpiau o gwestiynau
- Creu banciau cwestiynau
- Mewngludo cwisiau allanol
- Dangos un cwestiwn cwis ar y tro
- Creu cwisiau ar gyfer yr holl fyfyrwyr, myfyrwyr unigol neu adrannau o gyrsiau
Pa bryd fyddwn i’n defnyddio Cwisiau fel myfyriwr?
Mae modd defnyddio Cwisiau i wneud y canlynol:
- Profi eich gwybodaeth am ddeunydd y cwrs
- Gweld yr holl gwisiau sydd ar gael yn eich cwrs
- Cyflwyno cwisiau yn eich cwrs
- Gweld un cwestiwn cwis ar y tro neu weld yr holl gwestiynau ar unwaith (gan ddibynnu ar yr hyn mae eich addysgwr wedi’i ddewis)
- Adolygu canlyniadau cwis