Beth yw Trafodaethau?

Mae Canvas yn darparu system integredig ar gyfer trafodaethau dosbarth, gan ganiatáu i addysgwyr a myfyrwyr ddechrau cynifer o bynciau trafod ag y dymunir a chyfrannu atynt. Mae trafodaethau'n caniatáu cyfathrebu rhyngweithiol rhwng dau neu ragor o bobl; gall defnyddwyr gymryd rhan mewn sgwrs â dosbarth neu grŵp cyfan.

Hefyd, mae modd creu trafodaethau fel aseiniad at ddibenion graddio hefyd (a’u hintegreiddio’n rhwydd â Llyfr Graddau Canvas), neu gallant fod yn fforwm ar gyfer digwyddiadau amserol a chyfredol. Mae modd creu trafodaethau mewn grwpiau myfyrwyr hefyd.

Gall pynciau trafod gael eu trefnu fel trafodaethau penodol neu drafodaethau aml-drywydd. Mae trafodaethau â ffocws yn caniatáu dau lefel o nythu yn unig, y neges wreiddiol a’r ymatebion dilynol. Mae trafodaethau aml-drywydd yn caniatáu lefelau diderfyn o nythu. Mae trafodaethau penodol yn rhyngweithiadau gweddol fyr ac mae trafodaethau aml-drywydd yn caniatáu atebion o fewn atebion ac mae modd iddynt bara’n hirach.

Trafodaethau Penodol

Mae trafodaethau penodol yn rhyngweithiadau gweddol fyr sy'n tueddu i ddiflannu wrth i’r cwrs fynd rhagddo, fel fforwm wythnosol ar gyfer cwestiynau sy'n ymwneud â gweithgareddau’r wythnos honno.

Mae modd defnyddio trafodaeth benodol ar gyfer negeseuon unigol a sylwadau cysylltiedig. Fel arfer, mae un arweinydd trafodaeth yn postio neges ac mae mwy nag un dysgwr yn gwneud sylw ar y neges. Gall y cyfranogwyr adael sylw ochr ar gyfer ateb, ond nid oes modd datblygu’r sgwrs y tu hwnt i ddwy haen o nythu.

Mae modd defnyddio trafodaethau penodol i wneud y canlynol:

  • ateb cwestiwn unigol
  • rhannu adnoddau ymysg cyd-fyfyrwyr
  • casglu canlyniadau o weithgaredd ymchwil syml
  • rhannu datrysiadau i broblem unigol
  • cywiro camsyniadau
  • egluro polisïau cwrs
  • cael adborth ar waith sydd ar y gweill
  • rhannu syniadau am ddarlleniad unigol

Trafodaethau aml-drywydd

Mae trafodaethau aml-drywydd yn cynnwys haenau diderfyn o nythu atebion, gan adael i sylwebwyr barhau i ymateb at un edefyn wedi'i nythu. Mae trafodaethau Aml-drywydd yn addas ar gyfer mireinio syniadau cymhleth. Mae modd gweld ymatebion a chwestiynau gwahanol yn gyflym oherwydd y strwythur hierarchaidd. Gall trafodaethau aml-drywydd fod yn llefydd hirsefydlog ar gyfer syniadau sy'n parhau drwy gwrs cyfan.

Mae modd defnyddio trafodaethau aml-drywydd ar gyfer mwy nag un neges a sylwadau cysylltiedig. Mae mwy nag un arweinydd trafodaeth yn postio neges ac mae mwy nag un dysgwr yn gwneud sylw arni gyda rhyddid i greu unrhyw nifer o bynciau trafod a sylwadau cysylltiedig.

Mae modd defnyddio Trafodaethau Aml-drywydd i wneud y canlynol:

  • postio ac ateb nifer o gwestiynau cysylltiedig neu rhai nad ydynt yn gysylltiedig
  • trefnu canlyniadau o weithgaredd ymchwil cymhleth
  • rhannu syniadau a thrafod syniadau sydd wedi’u rhannu gan bob myfyriwr yn y cwrs
  • trafod manteision ac anfanteision un broblem, neu fwy nag un broblem
  • gofyn sawl cwestiwn i un arweinydd trafodaeth
  • mireinio syniadau rhwng nifer o arweinwyr trafodaeth a nifer o ddysgwyr
  • hwyluso trafodaethau grŵp ynghylch nifer o bynciau
  • hwyluso trafodaethau ynghylch trafodaeth (trafodaethau powlen pysgodyn)
  • edrych yn fanwl ar ymarferoldeb atebion gwahanol i broblem gymhleth

Sut ydw i’n defnyddio Trafodaethau fel Addysgwr?

Yn y nodwedd Trafodaethau, gallwch wneud y canlynol:

  • Creu, golygu a dileu pynciau trafod. Gallwch hefyd olygu, dileu ac ateb negeseuon gan fyfyrwyr unigol mewn trafodaeth.
  • Creu trafodaethau aml-drywydd neu drafodaethau penodol yn eich cwrs. (Mae modd cychwyn trafodaethau preifat mewn grwpiau o fyfyrwyr ac ni fydd modd i bobl eraill y tu allan i'r grŵp hwnnw eu gweld.)
  • Creu trafodaethau sydd â dyddiadau erbyn amrywiol ar gyfer adrannau gwahanol yn eich cwrs.
  • Creu trafodaeth grŵp ar gyfer aseiniad.
  • Creu trafodaeth wedi’i graddio ar gyfer pawb, myfyrwyr unigol, adrannau o gwrs neu grwpiau mewn cwrs. Pan gaiff trafodaeth ei nodi fel aseiniad wedi’i raddio, mae SpeedGrader™ Canvas yn cadw sylwadau pob myfyriwr ar wahân i’r edefyn ac yn eu cyfuno mewn gwedd hawdd ei darllen er mwyn graddio.
  • Tanysgrifio i drafodaeth a chael gwybod am atebion.
  • Galluogi ffrydiau podlediad yn eich trafodaethau.
  • Plannu neu atodi ffeiliau, delweddau a fideos YouTube.
  • Ychwanegu cynnwys cwrs yn uniongyrchol o’ch cwrs.
  • Gohirio negeseuon mewn trafodaeth tan ddyddiad wedi’i ddiffinio.
  • Pinio edafedd rydych chi am i'ch myfyrwyr eu gweld ar frig y dudalen Trafodaethau.

Nodyn: Mae modd defnyddio bysellau hwylus i symud drwy edafedd trafodaeth unigol. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau crwydro hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysell cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysell Mac) ar yr un pryd ar eich bysell.

Pa Osodiadau y Gallaf eu Rheoli yn yr Adnodd Trafodaethau?

Gallwch reoli gosodiadau penodol yn yr adnodd Trafodaethau:

Sut ydw i’n defnyddio’r adnodd Trafodaethau fel Myfyriwr?

Yn y nodwedd Trafodaethau, gallwch wneud y canlynol:

  • Creu, golygu a dileu pynciau trafod.
  • Ymateb i ymatebion myfyrwyr unigol, oni bai bod eich addysgwr wedi peidio â chaniatáu ymatebion mewn edeifion.
  • Tanysgrifio i drafodaeth a chael gwybod am atebion.
  • Tanysgrifio i ffrydiau podlediad mewn trafodaethau.
  • Plannu neu atodi ffeiliau, delweddau a fideos YouTube.

Nodyn: Efallai bod eich addysgwr wedi analluogi’r opsiynau hyn yn eich cwrs.

Sut ydw i’n defnyddio Trafodaethau fel Arsyllwr?

Yn y nodwedd Trafodaethau, gallwch wneud y canlynol:

  • Gweld trafodaethau cwrs eich myfyriwr.
  • Hidlo trafodaethau cwrs eich myfyriwr.
  • Tanysgrifio i drafodaeth a chael gwybod am atebion.

Nodyn: Efallai bod athro eich myfyriwr wedi analluogi’r opsiynau hyn yng nghwrs eich myfyriwr.