Beth yw New Quizzes?
Mae New Quizzes yn beiriant cwisiau sy’n integreiddio â Canvas ac yn cymryd swyddogaethau’r cwisiau clasurol sy’n bodoli yn Canvas ar hyn o bryd.
Mae addysgwyr yn gallu defnyddio New Quizzes i greu cwisiau gan ddefnyddio sawl math o gwestiwn gwahanol. Mae cwisiau New Quizzes yn ymddangos fel aseiniadau yn y dudalen Aseiniadau a gellir eu dyblygu. Mae myfyrwyr yn gallu cymryd cwisiau New Quizzes yn eu cyrsiau Canvas.
Dydy amgylchedd beta Canvas ddim yn gallu delio ag adroddiadau, ystadegau, chwilio banc eitemau, a thagio banc eitemau New Quizzes/ Ni fydd deilliannau sy'n cael eu hychwanegu at Canvas ar ôl yr adnewyddu beta yn ymddangos yn amgylchedd beta New Quizzes. Rhaid i ddeilliannau gael eu hychwanegu at yr amgylchedd cynhyrchu i ymddangos yn yr amgylchedd beta.
Mae Cwisiau Newydd ar gael mewn amgylcheddau cynhyrchu a beta.
Mae Cwisiau Newydd yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i fformatio ac ychwanegu cynnwys at gwestiynau cwis penodol.
Addysgwyr
Creu Cwisiau
Mae addysgwyr yn gallu defnyddio New Quizzes i greu cwisiau gyda sawl math o eitem sy’n mesur cymhwysedd myfyrwyr mewn amrywiaeth o bynciau. Gellir addasu cwisiau gan defnyddio amrywiaeth o osodiadau cwis ynghyd â’u cysoni â deilliannau ar lefel y cwis neu’r cwestiwn.
Cymedroli Ymgeision Myfyrwyr
Mae addysgwyr yn gallu cymedroli ymgeision myfyrwyr ac adolygu atebion myfyrwyr.
Gweld Adroddiadau
Mae New Quizzes yn cynnwys adroddiadau cwis er mwyn i weinyddwyr ac addysgwyr weld cynnydd myfyrwyr, gan gynnwys meistrolaeth o ddeilliannau dysgu.
Myfyrwyr
Cwblhau Cwisiau
Mae myfyrwyr yn gallu cael mynediad at New Quizzzes o gwrs Canvas er mwyn cymryd cwis.
Gweld Canlyniadau Cwis
Mae myfyrwyr yn gallu gweld eu canlyniadau o gwisiau New Quizzes. Mae canlyniadau cwisiau’n cynnwys sgôr cwestiynau unigol â’r cyfanswm. Mae’n bosib y byddan nhw hefyd yn cynnwys adborth gan yr addysgwr.