Beth yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog? (OLD)
Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Mae addysgwyr yn gallu galluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.
Mae gan Canvas olygydd cynnwys syml ond grymus sydd ar gael unrhyw bryd ar gyfer creu cynnwys newydd. Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau neu Feysydd Llafur).
Er bod y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn lân ac yn syml, mae’n ddigon soffistigedig i ddelio â phlannu unrhyw gynnwys fideo, fformiwlâu mathemategol a chyfryngau cyfoethog eraill.
Gwylio fideo am y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Nodyn: Gall Adnoddau Allanol (LTI) sydd wedi’u Ffurfweddu greu botymau ychwanegol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys yr ardal cynnwys a’r dewisydd cynnwys.
Mae unrhyw beth y gellir ei weld mewn porwr gwe yn gallu cael ei fewnosod i ardal cynnwys y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [1]. Gall cynnwys hefyd roi HTML yn uniongyrchol yn Canvas gan ddefnyddio’r ddolen Golygydd HTML (HTML Editor) [2].
Gall defnyddwyr gysylltu’n rhwydd â chynnwys cwrs drwy ddefnyddio’r Dewisydd Cynnwys (Content Selector) [3], sy’n ymddangos yn y bar ochr pan fydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar agor. Gan ddibynnu ar yr ardal nodwedd yn cael ei gweld (cwrs neu grŵp), gall defnyddwyr gysylltu â ffeiliau, delweddau neu ddolenni sy’n bodoli eisoes a llwytho ffeiliau a delweddau newydd i fyny.
Pa Nodweddion Canvas sy’n Defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog?
Mae’r nodweddion Canvas canlynol yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog:
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Trafodaethau
- Tudalennau
- Cwisiau
- Maes Llafur
Agor Bysellau Hwylus
Gall defnyddwyr Canvas ddefnyddio'r nodwedd llywio â bysellfwrdd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd (Keyboard). Gallwch hefyd agor y ddewislen drwy bwyso Alt+F8 (bysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+FN+F8 (bysellfwrdd Mac).
Gweld Dewislen Bysellau Hwylus
Mae modd defnyddio’r bysellau hwylus canlynol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog:
- I agor y dialog Bysellau Hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F8 (ar fysellfwrdd Mac)
- I ganolbwyntio ar y bar offer opsiynau elfen, pwyswch Ctrl+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Cmd+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I agor dewislen y golygydd, pwyswch Alt+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I agor bar offer y golygydd, pwyswch Alt+F10 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F10 (ar fysellfwrdd Mac)
- I gau dewislen neu ddeialog a dychwelyd i ardal y golygydd, pwyswch y fysell Esc
- I lywio trwy ddewislen neu far offer, pwyswch y fysell Tab
- Gallwch chi hefyd ddefnyddio bysellau hwylus eraill