Sut ydw i’n tanysgrifio i’r ffrwd Calendr gan ddefnyddio Google Calendar?
Gallwch chi fewngludo eich calendr Canvas i Google Calendar. Mae ffrwd y calendr yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas.
Mae’r camau yn y wers hon hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n defnyddio Gmail drwy Google Apps for Education. Mae Google Apps for Education yn darparu Cyfrif E-bost Sefydliadol i’r sefydliadau hynny sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. I ddysgu mwy, ewch i wefan Google Edu.
Ar ôl i chi danysgrifio i’r crynodeb calendr, gallwch chi dynnu neu danysgrifio o’r crynodeb calendr ar unrhyw adeg.
Sylwch:
- Bydd digwyddiadau hyd at 366 yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn allgludo calendr Canvas i Google Calendar. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
- Mae Google Calendar yn diweddaru’n achlysurol ond gall gymryd hyd at 24 awr i gysoni â Canvas Calendar. Efallai na fydd diweddariad Canvas i’w weld yn syth yn Google Calendar.
- Nid yw eitemau I’w Gwneud wedi’u cynnwys yn ffrwd y Calendr iCal.
- Ar ôl i chi fewngludo eich ffrwd calendr a'ch bod wedi ymrestru ar gwrs newydd, rhaid i chi ail-fewngludo'r ffrwd calendr i gynnwys calendr newydd y cwrs.
00:07: How do I subscribe to the calendar feed using Google Calendar as a student? 00:12: In global navigation click the calendar link 00:16: Click the calendar feed link 00:19: To copy the link copy the text in the URL field. 00:23: To download the feed as an ICS file. 00:26: Click the click to view calendar feed link. 00:30: In a new browser log into your Google account 00:34: Click the calendar link 00:37: Your calendar displays your calendars and other calendars. 00:41: Click on the specified option. 00:44: To paste a copied calendar feed click the from URL link To 00:49: import a downloaded ICS file click the import link 00:54: Take the copied URL from canvas and paste it into the URL of calendar 00:58: field. Click the add calendar button. 01:02: Two important downloaded ICS file click to select the file 01:06: then click the import button. 01:09: This guy covered how to subscribe to the calendar feed using Google Calendar as 01:13: a student.
Agor Calendr
![Agor Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/728/135/original/89a67921-b930-44be-8be3-f9c44ceaed78.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Agor Ffrwd Calendr
![Agor Ffrwd Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/079/120/original/389cbc27-2b8b-439d-9b0d-d0c6794e1dca.png)
Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).
Copïo Ffrwd Calendr
![Copïo Ffrwd Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/285/785/original/b3a05f59-e93d-426a-b3a3-d8dc5e244a07.png)
I gopïo’r ddolen, copïwch y testun yn y maes URL (URL field) [1].
I lwytho'r ffrwd i lawr fel ffeil ICS, cliciwch y ddolen Cliciwch i weld y Ffrwd Calendr (Click to view Calendar Feed) [2].
Mewngofnodwch i Google Account
![Mewngofnodwch i Google Account](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/079/124/original/3a6a14d5-0f37-4988-8261-2a78e4dd9f8e.png)
Mewn porwr newydd, mewngofnodwch i’ch Google Account.
Nodyn: Os ydych chi’n cymryd rhan yn Google Apps for Education, mewngofnodwch i Gyfrif E-bost eich Sefydliad i danysgrifio i’r Crynodeb Calendr.
Dod o hyd i’r Calendr
![Dod o hyd i’r Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/079/126/original/0c3be75a-0daa-4247-a37d-8af26245266a.png)
Cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Ychwanegu Calendrau Eraill
![Ychwanegu Calendrau Eraill](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/285/885/original/6dc0e0db-b241-4552-8c9c-80c936c77c39.png)
Cliciwch eicon Ychwanegu y Calendrau Eraill [1].
I ludo ffrwd calendr sydd wedi’i gopïo, cliciwch y ddolen O URL (From URL) [2].
I fewngludo ffeil ICS sydd wedi’i llwytho i lawr, cliciwch y ddolen Mewngludo (Import) [3].
Ychwanegu Calendr drwy URL
![Ychwanegu Calendr drwy URL](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/079/133/original/7bd3d1ba-eb4d-4562-b455-1908c1a8bcda.png)
Cymerwch yr URL sydd wedi’i gopïo o Canvas a’i ludo i’r maes URL calendr (URL of calendar) [1]. Cliciwch y botwm Ychwanegu Calendr (Add Calendar) [2].
Ychwanegu Calendr yn ôl Ffeil
![Ychwanegu Calendr yn ôl Ffeil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/285/888/original/828768e9-a445-4bbd-ae9d-fd5d5caed8da.png)
I fewngludo ffeil ICS sydd wedi’i llwytho i lawr, cliciwch i ddewis y ffeil (select the file) [1]. Yna, cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [2].