Sut ydw i’n llwytho dogfen i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog?
Gallwch chi lwytho ffeiliau i fyny o’ch cyfrifiadur i ddolen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.
Yn ddiofyn, mae dolenni dogfennau wedi’u plannu yn dangos eicon sy’n gadael i ddefnyddwyr weld rhagolwg o’r ddogfen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch chi analluogi’r rhagolwg mewn-llinell neu agor y rhagolwg mewn-llinell yn awtomatig.
00:07: How to upload a document in the rich content editor 00:11: Open the rich content editor when creating or editing an announcement assignment 00:15: discussion page quiz or syllabus. 00:20: To upload a document from the toolbar click the document icon. 00:24: Then select the upload document option. 00:27: You can also upload a document using the menu bar in the rich content editor. 00:31: The menu bar displays the title of Rich content editor tools and may be preferable 00:36: for those using keyboard navigation. To upload a document 00:40: using the menu bar click the insert menu select the document option 00:44: and select the upload document option. 00:48: You can upload an embedded document by dragging and dropping the file save to your computer. 00:54: You can upload an embedded document by copying and pasting a file save to 00:58: your computer. To copy a file to your clipboard open the file 01:02: location. Right, click the file and select copy or click 01:06: the file and use the keyboard shortcut Ctrl + C on a PC or 01:10: command + C on a Mac. You can paste the file by right clicking 01:14: into the Rich Text Editor and selecting paste or using the keyboard shortcut Ctrl 01:18: + V on a PC or command + V on a Mac. 01:23: Click or drag and drop a media file to the media uploader to upload a file from 01:27: your computer. 01:29: The uploader displays the document file name to remove the file. 01:32: Click the delete icon. 01:35: To embed your selected document click the submit button. 01:39: View a link to your uploaded file in the rich content editor. 01:42: To manage options for the link click the link title and click the link options 01:47: link. 01:49: You can edit the link text in the text field or link URL in the Link Field. 01:55: To disabled users from seeing a file preview select disable preview 01:59: option. 02:01: You can choose to display a file preview in a pop-up window or inline preview 02:05: when the link is clicked. You can also choose to expand an inline preview 02:09: by default. To allow users to view a file preview in a pop-up 02:13: window when the link is clicked select the preview in overlay option. 02:19: To allow users to view an inline preview when the link is clicked. 02:22: Click the preview inline option. 02:25: To expand the inline preview by default. 02:27: Click the expand preview by default checkbox. 02:32: To save link options. Click the done button. 02:35: Click the reply or save button. 02:38: The guide covered how to upload a document in the rich content editor.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Llwytho Dogfen i Fyny drwy Lusgo a Gollwng
![Llwytho Dogfen i Fyny drwy Lusgo a Gollwng](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/006/937/757/original/71503a7b-35f7-45ca-b56b-badfe2d85e64.png)
Gallwch chi lwytho dogfen i fyny a’i phlannu drwy lusgo a gollwng y ffeil sydd wedi’i chadw ar eich cyfrifiadur.
Nodyn: Gallwch chi lwytho mwy nag un ddogfen i fyny a’u plannu drwy lusgo a gollwng y ffeiliau sydd wedi’u cadw ar eich cyfrifiadur.
Llwytho Dogfen i Fyny drwy Gopïo a Gludo
![Llwytho Dogfen i Fyny drwy Gopïo a Gludo](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/006/937/759/original/dbce835a-2943-4cdc-bde5-def3de3f58c5.png)
Gallwch chi lwytho dogfen i fyny a’i phlannu drwy gopïo a gludo’r ffeil sydd wedi’i chadw ar eich cyfrifiadur. I gopïo ffeil i’ch clipfwrdd, agorwch leoliad y ffeil. De-gliciwch y ffeil a dewis Copïo neu cliciwch ar y ffeil a defnyddio’r bysellau hwylus CTRL+C ar PC neu Command+C ar Mac Gallwch ludo’r ffeil drwy dde-glicio yn y Golygydd Testun Cyfoethog a dewis Gludo neu ddefnyddio’r bysellau hwylus CTRL+V ar PC neu Command+V ar Mac.
Llwytho Dogfen i Fyny o’r Bar Offer
![Llwytho Dogfen i Fyny o’r Bar Offer](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/006/328/049/original/cc394375-8ed6-43c4-8bb6-06078dfae12d.png)
I lwytho dogfen i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Dogfen (Document) [1]. O’r gwymplen, dewiswch yr opsiwn Llwytho Dogfen i Fyny (Upload Document) [2].
I weld yr eicon Dogfen, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [3].
Llwytho Dogfen i Fyny o’r Bar Dewislen
![Llwytho Dogfen i Fyny o’r Bar Dewislen](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/853/190/original/fd8b7e88-beae-4b8d-8bca-93162856d92d.png)
Cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. Crwydrwch i weld yr opsiynau Dogfen (Document) [2], a dewiswch yr opsiwn Llwytho Dogfen i Fyny (Upload Document) [3].
Llwytho Ffeil i Fyny
Cliciwch i bori eich ffeiliau [1] neu llusgwch a gollyngwch ffeil cyfryngau i’r adnodd llwytho cyfryngau fyny [2] er mwyn llwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur.
Dewis Ffeil
![Dewis Ffeil](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/869/582/original/e8e4c737-75cd-4c07-94eb-a7d0d03cc002.png)
Dewiswch y ffeil dogfen [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].
Rheoli Hawliau Defnyddio
![Rheoli Hawliau Defnyddio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/784/291/original/77ceb098-d02a-4eb4-9f33-92700d3dd968.png)
Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich dogfen.
Yn y gwymplen Hawliau Defnyddio (Usage Right) [1], dewiswch un o’r pum hawl defnyddio canlynol:
- Fi sydd biau’r hawlfraint: yn golygu cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi
- Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil: caniatâd awdurdodedig gan yr awdur
- Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus: wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach
- Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol: dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg
- Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons: mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol
Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [2].
Nodyn: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch dogfen, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor.
Cyflwyno Ffeil wedi’i Llwytho i Fyny
![Cyflwyno Ffeil wedi’i Llwytho i Fyny](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/878/487/original/78c5943e-6ebb-4d35-849a-1de5b3ed7a88.png)
I lwytho i fyny’r ddogfen sydd gennych chi dan sylw, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Nodyn: Bydd y ffeil yn fflachio cyn iddi gael ei phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Gweld Dolen Dogfen
![Gweld Dolen Dogfen](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/857/273/original/a3078ac5-cafa-4e1d-b905-48bc298ec1db.png)
Gweld dolen i’ch ffeil wedi’i llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I reoli opsiynau ar gyfer y ddolen, cliciwch deitl y ddolen a chlicio’r ddolen Opsiynau Dolen (Link Options) [2].
Gweld Opsiynau Dolen
![Gweld Opsiynau Dolen](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/527/228/original/9fe7b9e6-7bec-4915-bde0-4e68b7f7f25a.png)
Gallwch chi olygu testun y ddolen yn y maes Testun (Text) [1] neu gysylltu’r URL yn y maes Dolen (Link) [2].
I analluogi defnyddwyr rhag gweld rhagolwg o ffeil, dewiswch yr opsiwn Analluogi Rhagolwg (Disable Preview) [3].
Gallwch chi ddewis dangos rhagolwg o ffeil mewn ffenestr naid neu mewn rhagolwg mewn-llinell pan fyddwch chi’n clicio ar y ddolen. Gallwch chi hefyd ddewis ehangu rhagolwg mewn-llinell yn ddiofyn.
I adael i ddefnyddwyr weld rhagolwg o ffeil mewn ffenestr naid pan fyddan nhw’n clicio ar y ddolen, dewiswch yn opsiwn Rhagolwg mewn gorchudd (Preview in overlay) [4].
I adael i ddefnyddwyr weld rhagolwg mewn-llinell pan fyddan nhw’n clicio ar y ddolen, dewiswch yn opsiwn Rhagolwg mewn-llinell (Preview inline) [5]. I ehangu’r rhagolwg mewn-llinell yn ddiofyn, cliciwch y blwch ticio Ehangu rhagolwg yn ddiofyn (Expand preview by Default) [6].
I gadw opsiynau dolen, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [7].
Sylwch:
- Dydy amgylchedd beta Canvas ddim yn gallu delio â rhagolygon mewn-llinell.
- Dydy rhagolygon mewn-llinell ddim yn ymddangos yn y modd golygu.
Cadw Newidiadau
![Cadw Newidiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/878/486/original/d7093cc0-302a-4d88-a5af-d5c4980f1cbf.png)
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld Cynnwys
![Gweld Cynnwys](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/207/680/original/a61e23e8-c046-412f-a00c-6ada567f6e66.png)
Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
I weld rhagolwg o’r ffeil, cliciwch y ddolen ffeil [1].
I lwytho’r ddogfen sydd wedi’i chysylltu i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr [2].