Sut ydw i’n gweld Aseiniadau fel myfyriwr?
Gallwch weld holl aseiniadau eich cwrs ar y dudalen Aseiniadau (Assignments).
Nodiadau:
- Efallai y bydd eich addysgwr yn dewis cuddio’r ddolen Aseiniadau (Assignments) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Aseiniadau (Assignments) ar gael gallwch gael mynediad at Aseiniadau drwy eich dangosfwrdd defnyddiwr neu gwrs, y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, neu Fodiwlau.
- Os ydy’r aseiniad rydych chi’n edrych arno yn ymddangos yn wahanol, mae’n bosibl bod eich aseiniad yn defnyddio’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad. Dysgwch sut i weld aseiniadau drwy ddefnyddio Gwelliannau i Aseiniadau (Assignment Enhancements).
00:07: How do I view assignments as a student? 00:10: Access the assignment section through the menu. 00:13: In assignments, you can view all the assignments in your course. 00:17: By default assignments are grouped by date. 00:20: You can view assignments grouped according to their due dates. 00:24: Overdue assignments assignments and discussions that are passed the 00:28: due date are still available have not been submitted and have not been graded. 00:34: Upcoming assignments assignments discussions and quizzes 00:38: that have an upcoming due date. 00:41: Undated assignments assignments discussions and quizzes 00:45: that do not have a due date. 00:48: Past assignments assignments and discussions that are passed the due 00:52: date and either are not available have been submitted or have received a grade quizzes 00:56: that are past the due date. 01:00: To view assignments Group by type click the show by type button. 01:04: You can view assignments by assignment groups such as assignments homework 01:08: and papers. You can also see how much each grouping 01:13: will be worth in the final grade. 01:16: Each assignment also includes an icon which indicates the assignment type 01:20: discussion assignment or quiz. 01:24: Each assignment displays the assignment name any availability dates for the assignment 01:28: due date if any and the number of points the assignment is worth. 01:34: The first dates you may see are called availability dates. 01:37: Sometimes your instructor only wants you to submit an assignment during a specified 01:41: date range. So the available dates are the range of time that the assignment is accessible 01:46: to you. 01:48: If the assignment does not have a date listed the assignment is open. 01:51: You can submit the assignment at any time during your course. 01:56: If the assignment says available until date you can submit the assignment 02:00: until the specified date. 02:03: If the assignment says not available until date the assignment is locked 02:07: until the specified date. 02:10: If the assignment says closed the assignment cannot accept submissions. 02:15: The second set of dates are the due dates for each respective assignment. 02:19: Any assignments submitted after the due date or marked as late some 02:23: instructors May deduct points for late submissions. 02:26: Again, not all assignments may include a due date. 02:30: You can still submit late assignments before the available until date. 02:35: Please be aware that the due date may be before or on the available date. 02:40: Due dates also include a time if your instructor does not set a 02:44: due time the listed date displays. 02:46: The course is default due time. 02:49: You can search for an assignment by typing an assignment title or a keyword in the search 02:53: field. If your course includes multiple grading periods, 02:57: you can view assignments by grading period 03:01: To view the details of an assignment. Click the name of the assignment. 03:06: When an assignment is open to you to submit at any time, you can view the due 03:10: date points and the types of submissions you can use for the assignment. 03:14: Not all assignments may have a due date. 03:17: You can also view additional details. 03:21: Instructions any instructions that your instructor has about the assignment, 03:25: please note that you cannot download assignment instructions, unless your 03:29: instructor has included a link to download them. 03:32: You can also print the screen or copy and paste the directions into a word processing 03:36: program or you can also view the assignment in the canvas mobile app. 03:42: Rubric any grading criteria that your instructor has provided for the 03:46: assignment. An assignment may or may not include a rubric before 03:50: submitting your assignment. You may want to review the assignment rubric. 03:55: For example an assignment may have a due date but may not list any other dates. 04:00: If you were to miss the due date, you could still submit the assignment for late credit 04:04: before the last day of the course. If the assignment does not have a due 04:08: date you can submit the assignment at any time before the last day of the course. 04:14: To submit your assignment click the start assignment button. 04:17: You can also submit a quiz or reply to a discussion. 04:21: When an assignment is open to you during availability dates, you can view all available 04:25: assignment information in addition to the specific dates. 04:28: The assignment is available to you. Availability dates may include 04:32: a first available date open date last available date Lochte 04:37: or closed or both dates to create an overall date range. 04:41: The due date may be before or on the last available date if one is set. 04:46: If you were to miss the assignment submission due date, you could still submit the assignment 04:50: until the last available date. Once the last date passes you 04:55: can no longer submit the assignment. 04:58: Your instructor May limit the number of submission attempts you are allotted for an assignment. 05:02: If your assignment has a limited number of submissions, you can view the number of submission 05:07: attempts you have made in the number of submission allowed for the assignment. 05:12: Once you have used all your submission attempts, the new attempt button displays 05:16: is disabled. 05:18: An assignment can be locked before an instructor wants it open or after a specific 05:22: date has passed after the due date. 05:24: When an assignment is locked you can view the rubric if any and 05:28: the assignment details. You can also view the date when the assignment 05:32: will be open for submissions if it has not been opened yet. 05:37: When an assignment is closed you can still view the rubric if any and 05:41: any existing submission details in the sidebar, but you can no longer view the 05:45: assignment details or submit resubmit the assignment. 05:49: You can also view the date. The assignment was locked to submissions. 05:53: Assignments clothes when they are only available until a specific date. 05:58: This guide covered how to view assignments as a student.
Agor Aseiniadau
![Agor Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/744/633/original/53afa68a-77d2-4260-ad7b-cbafde636c6a.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Nodyn: Os nad yw’r ddolen Aseiniadau ar gael yn Aseiniadau adran Crwydro’r Cwrs, gallwch chi gael mynediad at aseiniadau cwrs drwy'r dudalen Modiwlau.
Gweld Aseiniad yn ôl Dyddiad
![Gweld Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/695/275/original/19e2ffc8-49aa-416b-98f2-faec7d143aa9.png)
Yn yr adran Aseiniadau (Assignments), gallwch weld pob aseiniad yn eich cwrs.
Yn ddiofyn, mae aseiniadau'n cael eu grwpio yn ôl dyddiad [1]. Gallwch weld aseiniadau wedi’u grwpio yn ôl eu dyddiadau cyflwyno:
- Aseiniadau Hwyr (Overdue Assignments) [2]: aseiniadau a thrafodaethau sydd ar ôl y dyddiad erbyn, sy’n parhau ar gael, heb gael eu cyflwyno, a heb gael eu graddio.
- Aseiniadau sydd ar y Gweill (Upcoming Assignments) [3]: aseiniadau, trafodaethau, a chwisiau sydd â dyddiad erbyn sy’n prysur agosáu.
- Aseiniadau Heb Ddyddiadau (Undated Assignments) [4]: aseiniadau, trafodaethau, a chwisiau sydd heb ddyddiad erbyn.
- Aseiniadau Blaenorol (Past Assignments) [5]: aseiniadau a thrafodaethau sydd ar ôl y dyddiad erbyn ac sydd un ai ddim ar gael, wedi cael eu cyflwyno, neu sydd wedi derbyn gradd; cwisiau sydd ar ôl y dyddiadau erbyn.
Nodyn: Mae'r dudalen Aseiniadau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Gweld Aseiniadau yn ôl Math
![Gweld Aseiniad yn ôl Math](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/695/279/original/9bb0e48a-62f1-40c5-9d04-06ea53fb2240.png)
I weld aseiniadau wedi’u grwpio yn ôl math, cliciwch y botwm Dangos yn ôl Math (Show By Type) [1]. Gallwch weld aseiniadau yn ôl grwpiau aseiniadau, fel Aseiniadau [2], Gwaith Cartref [3] a Phapurau [4].
Gallwch hefyd weld faint bydd gwerth pob grŵp yn y radd derfynol [5].
Gweld Eiconau Aseiniadau
![Gweld Eiconau Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/695/281/original/a89741c8-1b2e-48c2-8d65-db4776b26ff1.png)
Mae pob aseiniad hefyd yn cynnwys eicon sy’n nodi’r math o aseiniad: trafodaeth[1], aseiniad [2], neu gwis [3].
Gweld Crynodeb Aseiniad
![Gweld Manylion Aseiniad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/182/253/original/71ee4ffd-eab0-4112-b06c-28711ed37acb.png)
Mae pob aseiniad yn dangos enw’r aseiniad [1], unrhyw ddyddiadau ar gael ar gyfer yr aseiniad [2], dyddiad erbyn (os oes un) [3], a nifer y pwyntiau y mae’r aseiniad ei werth [4].
Gweld Dyddiadau Ar Gael
![Gweld Dyddiadau Ar Gael](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/723/528/original/8995d4ba-97be-4fd0-b223-712443389701.png)
Y dyddiadau cyntaf a welwch chi yw’r dyddiadau ar gael. Weithiau bydd eich addysgwr am i chi gyflwyno aseiniad o fewn cyfnod penodol, felly’r dyddiadau ar gael yw’r cyfnod y mae’r aseiniad ar gael i chi.
- Os nad oes dyddiad wedi’i nodi ar gyfer yr aseiniad, mae’r aseiniad yn agored; gallwch gyflwyno’r aseiniad ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs [1].
- Os yw’r aseiniad yn dweud Ar gael tan (Available until) [dyddiad], gallwch gyflwyno’r aseiniad tan y dyddiad a nodwyd [2].
- Os yw’r aseiniad yn dweud Ddim ar gael tan (Not Available Until) [dyddiad], mae’r aseiniad wedi’i gloi tan y dyddiad a nodwyd [3].
- Os yw’r aseiniad yn dweud Wedi cau (Closed), does dim modd i’r aseiniad dderbyn cyflwyniadau [4].
Nodyn: Os yw’r dyddiad a restrir wedi’i osod i 12 AM, y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno’r aseiniad yw’r diwrnod llawn cyn y dyddiad a restrir. Er enghraifft, os yw aseiniad Ar Gael tan 15 Rhagfyr, gallwch gael mynediad at yr aseiniad tan 14 Rhagfyr am 11:59 pm.
Gweld Dyddiadau Erbyn
![Gweld Dyddiadau Erbyn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/182/255/original/64d8f722-20c1-49ee-87ea-d4597a6c2a96.png)
Yr ail gyfres o ddyddiadau yw’r dyddiadau erbyn ar gyfer pob aseiniad perthnasol [1]. Mae unrhyw aseiniad sy’n cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad erbyn yn cael ei farcio’n hwyr; efallai y bydd rhai addysgwyr yn tynnu pwyntiau am gyflwyno gwaith yn hwyr. Eto, ni fydd pob aseiniad yn cynnwys Dyddiad erbyn.
Byddwch chi’n dal yn gallu cyflwyno aseiniadau hwyr cyn y dyddiad Ar gael tan (Available until).
Cofiwch y gall y Dyddiad Erbyn fod cyn neu ar y dyddiad Ar Gael.
Mae dyddiadau erbyn yn cynnwys amser [2] hefyd. Os nad yw eich addysgwr yn gosod amser erbyn, mae’r dyddiad a restrir yn dangos amser erbyn diofyn y cwrs.
Hidlo Aseiniadau
![Hidlo Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/695/285/original/4d958b2b-bd7c-4b4d-a362-84193f1d3432.png)
Os yw eich cwrs yn cynnwys Mwy nag Un Cyfnod Graddio, gallwch weld aseiniadau yn ôl cyfnod graddio [1].
Gallwch chwilio am aseiniad drwy deipio teitl aseiniad neu allweddair yn y maes Chwilio (Search) [2].
Agor Aseiniad
![Agor Aseiniad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/182/249/original/dddb674a-3282-4352-8ac0-fadbb3d74ca4.png)
I weld manylion aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad.
Gweld Aseiniad Agored
![Gweld Aseiniad Agored](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/241/686/original/d53b731a-ade7-40d8-8a79-cf25542b380b.png)
Pan fydd aseiniad yn agored i chi ei gyflwyno ar unrhyw adeg, gallwch weld y dyddiadau erbyn, pwyntiau, a’r math(au) o gyflwyniad(au) y gallwch eu defnyddio ar gyfer yr aseiniad [1]. Ni fydd gan bob aseiniad ddyddiad erbyn.
Gallwch hefyd weld manylion ychwanegol:
- Cyfarwyddiadau (Instructions) [2]: unrhyw gyfarwyddiadau sydd gan eich addysgwr am yr aseiniad. Cofiwch nad oes modd llwytho cyfarwyddiadau aseiniad i lawr oni bai fod eich addysgwr wedi cynnwys dolen i’w llwytho i lawr. Gallwch hefyd argraffu’r sgrin neu gopïo a gludo’r cyfarwyddiadau i mewn i raglen prosesu geiriau, neu gallwch weld yr aseiniad yn ap symudol Canvas.
- Cyfarwyddyd Sgorio (Rubric) [3]: unrhyw feini prawf graddio y mae eich addysgwr wedi’u darparu ar gyfer yr aseiniad. Mae’n bosib i aseiniad gynnwys cyfarwyddyd sgorio. Cyn cyflwyno eich aseiniad, efallai y byddwch chi eisiau adolygu cyfarwyddyd sgorio’r aseiniad.
Er enghraifft, efallai fod gan aseiniad ddyddiad erbyn ond dim rhestr o ddyddiadau eraill. Pe byddech chi’n methu’r dyddiad erbyn, byddech chi’n dal yn gallu cyflwyno’r aseiniad am gredyd hwyr cyn diwrnod olaf y cwrs. Os nad oes gan yr aseiniad ddyddiad erbyn, gallwch gyflwyno’r aseiniad unrhyw adeg cyn diwrnod olaf y cwrs.
I gyflwyno eich aseiniad, cliciwch y ddolen Dechrau Aseiniad (Start Assignment) [4]. Gallwch hefyd gyflwyno cwis neu ymateb i drafodaeth.
Nodyn: Gallwch wastad ailgyflwyno aseiniad oni bai fod eich addysgwr wedi gosod dyddiadau ar gael ar yr aseiniad.
Gweld Aseiniad gyda Dyddiadau Ar Gael
![Gweld Aseiniad gyda Dyddiadau Ar Gael](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/241/688/original/6b7db493-ea16-425b-9130-72e05cbec3d0.png)
Pan mae aseiniad yn agored i chi yn ystod y dyddiadau y bydd ar gael, gallwch weld yr holl wybodaeth sydd ar gael ar yr aseiniad ynghyd â’r dyddiadau penodol y mae’r aseiniad ar gael i chi. Gall dyddiadau ar gael gynnwys dyddiad ar gael gyntaf (dyddiad agor), dyddiad ar gael olaf (wedi’i gloi neu’i gau), neu’r ddau ddyddiad i greu cyfnod amser cyffredinol. Gall y Dyddiad erbyn fod cyn neu ar (before or on) y dyddiad ar gael olaf (os oes un wedi’i osod).
Os na fyddwch chi’n cyflwyno’r aseiniad erbyn y dyddiad erbyn [1], byddwch chi’n dal yn gallu cyflwyno’r aseiniad tan y dyddiad ar gael olaf [2]. Unwaith mae’r dyddiad olaf wedi bod, does dim modd i chi gyflwyno’r aseiniad.
Nodyn: Wrth edrych ar y dyddiad erbyn gyda 24 awr, bydd ffenestr argaeledd yn ymddangos.
Gweld Aseiniadau gydag Ymgeisiau Cyfyngedig
![Gweld Aseiniadau gydag Ymgeisiau Cyfyngedig](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/241/690/original/68c640ff-fbfb-4c40-a62f-c6f2c5361f05.png)
Efallai y bydd eich addysgwr yn cyfyngu ar sawl ymgais y cewch chi i gyflwyno eich aseiniad. Os oes gan eich aseiniad nifer cyfyngedig o gyflwyniadau, gallwch chi weld sawl ymgais rydych chi wedi’i chael [1] a sawl ymgais a ganiateir ar gyfer yr aseiniad [2].
Ar ôl i chi ddefnyddio pob ymgais i gyflwyno sydd gennych, bydd y botwm Cais Newydd (New Attempt) yn cael ei analluogi [3].
Gweld Aseiniad wedi’i Gloi
![Gweld Aseiniad wedi’i Gloi](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/762/383/original/62815cc3-b9f2-4fd0-8ed9-25eb5a542e0c.png)
Gall aseiniad gael ei gloi cyn bod addysgwr am ei agor, neu ar ôl i ddyddiad penodol fynd heibio ar ôl y dyddiad erbyn. Pan fydd aseiniad wedi’i gloi, gallwch weld y cyfarwyddyd sgorio (os oes un) a manylion yr aseiniad. Gallwch hefyd weld y dyddiad pan fydd yr aseiniad yn agored ar gyfer cyflwyniadau os nad yw’n agored eto.
Gweld Aseiniad wedi’i Gau
![Gweld Aseiniad wedi’i Gau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/762/381/original/05d27be7-d34f-47c7-9163-7082886242f4.png)
Pan fydd aseiniad wedi’i gau, byddwch chi’n dal yn gallu gweld y cyfarwyddyd sgorio, os oes un, ac unrhyw fanylion cyflwyno yn y bar ochr, ond ni fyddwch chi’n gallu gweld manylion yr aseiniad na chyflwyno/ailgyflwyno’r aseiniad. Gallwch chi hefyd weld y dyddiad pan gafodd yr aseiniad ei gloi ar gyfer cyflwyniadau.
Mae aseiniadau’n cau pan dydyn nhw ddim ond ar gael tan ryw ddyddiad penodol.