Sut ydw i’n creu trafodaeth cwrs fel myfyriwr?
Bydd modd i chi greu trafodaethau newydd yn eich cwrs. Mae’r trafodaethau hyn yn rhan o’r cwrs ac mae hyn yn wahanol i greu trafodaeth mewn grŵp.
Nodyn:
- Os nad yw'r botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion) yn ymddangos, mae eich addysgwr wedi atal y gosodiad hwn yn eich cwrs. Fodd bynnag, nid yw'r gosodiad hwn yn effeithio ar drafodaethau mewn grwpiau cwrs.
- Os nad ydych chi’n gallu Aseinio’r Drafodaeth, y cyfyngiadau ar eich cofrestriad ar y cwrs yw’r rheswm am hyn. Mae’n dal yn bosibl i chi anfon y Drafodaeth ar bob defnyddiwr ar y cwrs.
- Os byddwch chi'n ychwanegu ffeil at eich trafodaeth, bydd yn cael ei storio yn ffeiliau'r cwrs yn y ffolder heb ei ffeilio.
00:07: Sut ydw i’n creu trafodaeth cwrs fel myfyriwr? 00:10: Yn y ddewislen crwydro’r cwrs, cliciwch y ddolen trafodaethau. 00:14: Cliciwch y botwm ychwanegu trafodaeth. 00:17: Rhowch deitl i drafodaeth yn y maes teitl pwnc. 00:20: Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r golygydd cynnwys cyfoethog. 00:25: Gallwch chi hefyd atodi ffeiliau i’ch trafodaeth. 00:28: I orfodi defnyddiwr i ymateb i bwnc cyn gweld ymatebion gan bob eraill cliciwch. 00:32: Y blwch ticio rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r pwnc cyn gweld atebion eraill. 00:38: I ganiatáu i ddefnyddwyr hoffi ymatebion trafodaeth. 00:40: Cliciwch y blwch ticio caniatáu hoffi. 00:44: I nodi dyddiadau erbyn mewn adrannau neu ddefnyddwyr ar gyfer eich trafodaeth. 00:47: Cliciwch y botwm rheoli dyddiadau erbyn a neilltuo i. 00:51: Yn ddiofyn, mae pob adran a myfyriwr o’ch cwrs yn gallu gweld a chyfrannu at. 00:55: y drafodaeth. I nodi defnyddwyr neu adrannau penodol 00:59: ar gyfer eich trafodaeth rhowch fyfyrwyr a neilltuwyd yn yr ardal neilltuwyd i. 01:04: I ychwanegu myfyriwr a neilltuwyd cliciwch ar y maes neilltuo i yna dewis 01:08: un neu ragor o fyfyrwyr a neilltuwyd. Gallwch chi neilltuo i bawb pawb arall 01:12: adran o gwrs neu fyfyriwr unigol. 01:17: I ddod o hyd i fyfyriwr neu adran yn haws, rhowch rai o lythrennau’r enw a 01:21: dewiswch yr enw o restr wedi’i hidlo. I dynnu 01:25: myfyriwr a neilltuwyd, cliciwch yr eicon tynnu 01:28: Gall cyd-fyfyrwyr weld y drafodaeth yn ddiofyn ar unrhyw amser yn ystod dyddiadau’r cwrs 01:32: neu’r adran. Fodd bynnag i roi dyddiadau ac amseroedd penodol 01:36: pan fydd trafodaeth ar gael rhowch ddyddiadau ac neu amseroedd yn 01:40: yr ardaloedd ar gael o a tan. 01:44: I osod dyddiadau, rhowch ddyddiad yn y maes ar gael o neu tan. 01:48: Neu cliciwch y maes a dewis dyddiad o’r calendr. 01:52: I osod amseroedd rhowch amser neu cliciwch ar y gwymplen amser a dewis amser 01:56: amser. 01:58: I neilltuo i fyfyrwyr neu adrannau eraill gyda gwahanol ddyddiadau ac amseroedd, cliciwch y 02:02: botwm ychwanegu yna neilltuwch fyfyrwyr eraill a dyddiadau 02:06: ar gael. 02:08: I gadw manylion aseiniad trafodaeth. Cliciwch y botwm defnyddio. 02:12: Mae’r label newidiadau yn aros yn ymddangos I gadw manylion yr 02:16 asieniad. Cliciwch y botwm cadw. 02:19: Roedd y canllaw hwn yn trafod sut greu trafodaeth cwrs fel myfyriwr.
Agor Trafodaethau
![Agor Trafodaethau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/748/422/original/e5b2f138-b208-4fa7-9f16-e7d329afa038.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Ychwanegu Trafodaeth
![Ychwanegu Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/773/original/53a99894-cf54-4c45-ba29-113b3aaf1ff2.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion).
Creu Trafodaeth
![Creu Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/775/original/81453824-17f5-4bfd-bf71-57b2604abd52.png)
Rhowch deitl i drafodaeth yn y maes Teitl Pwnc (Topic Title) [1].
Ychwanegwch gynnwys at drafodaeth drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].
Gallwch chi hefyd atodi ffeiliau i’ch trafodaeth [3].
Gosod Opsiynau Trafodaeth
![Gosod Opsiynau Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/778/original/ffd137e7-85a5-4fb4-b1de-afb02391e7ab.png)
I orfodi defnyddiwr i ymateb i’r testun cyn gweld yr atebion gan eraill, cliciwch y blwch ticio Rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r testun cyn gweld yr ymatebion eraill (Participants must respond to the topic before viewing other replies) [1].
I adael i ddefnyddwyr hoffi atebion trafodaeth, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Hoffi (Allow liking) [2].
Rhoi Trafodaeth
![Rhoi Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/780/original/e04b86cf-f859-43a9-a1a2-4e0386466ded.png)
Yn ddiofyn, mae pob adran a myfyriwr o’ch cwrs yn gallu gweld a chyfrannu at y drafodaeth. I nodi adrannau neu ddefnyddwyr penodol ar gyfer eich trafodaeth, cliciwch y ddolen Rheoli Rhoi I (Manage Assign To) [1]. Rhowch fyfyrwyr a neilltuwyd yn yr ardal Rhoi I (Assign To) [2].
Dewis Myfyrwyr a Neilltuwyd
![Dewis Myfyrwyr a Neilltuwyd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/783/original/890e8443-34ba-41c7-a692-913331ed7f56.png)
I ychwanegu myfyriwr a neilltuwyd cliciwch ar y maes Rhoi I (Assign To) [1]. Yna, dewiswch un neu fwy o’r myfyrwyr a neilltuwyd. Gallwch neilltuo i bawb, pawb arall, adran o’r cwrs [2], neu fyfyriwr unigol [3].
Dod o hyd i Fyfyriwr neu Adran
![Dod o hyd i Fyfyriwr neu Adran](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/785/original/cbc9c7b9-f09a-4a70-b129-ccf222e5911e.png)
I ddod o hyd i fyfyriwr neu adran yn haws, rhowch rai o lythrennau’r enw [1] a dewiswch yr enw o restr wedi’i hidlo [2].
I dynnu myfyriwr a neilltuwyd, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [3].
Rhowch Ddyddiadau Ar Gael
![Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/787/original/a444f5b3-0f04-4e35-920a-5a303fdd962e.png)
Gall cyd-fyfyrwyr weld y drafodaeth yn ddiofyn ar unrhyw amser yn ystod dyddiadau’r cwrs neu’r adran. Fodd bynnag, i roi dyddiadau ac amseroedd penodol pan fydd trafodaeth ar gael, rhowch ddyddiadau ac/neu amseroedd yn yr ardaloedd Ar gael o (Available from) [1] a Tan [2].
Gosod Dyddiadau ac Amseroedd
![Dewis Dyddiadau ac Amseroedd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/789/original/a491a416-5c17-4ee7-95ed-bf91bad35f9d.png)
I osod dyddiadau, rhowch ddyddiad yn y maes Ar gael o (Available from) neu Tan (Until) [1]. Neu cliciwch y maes a dewis dyddiad o’r calendr [2].
I osod amseroedd, rhowch amser neu cliciwch ar y gwymplen Amser (Time) a dewis amser [3].
Nodiadau:
- I dynnu dyddiadau ac amseroedd a ddewiswyd, cliciwch y ddolen Clirio (Clear) [4].
- Yn y calendr, mae’r dyddiad presennol yn cael ei ddangos mewn cylch glas [5].
Ychwanegu Manylion Aseiniad Ychwanegol
![Ychwanegu Gwybodaeth Aseiniad Ychwanegol](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/791/original/a6473d8b-7a70-41a4-a467-5af47f277a3e.png)
I neilltuo i fyfyrwyr neu adrannau eraill gyda gwahanol ddyddiadau ac amseroedd, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add). Yna, neilltuwch fyfyrwyr eraill a dyddiadau ar gael.
Gweithredu Manylion
![Cadw Manylion Neilltuo](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/793/original/cef31cda-cb24-4352-a1cd-d93b59571663.png)
I gadw manylion eich asesiad trafod, cliciwch y botwm Rhoi (Apply).
Cadw Trafodaeth
![Cadw Trafodaeth](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/581/795/original/8457d887-65b3-4be2-ac59-e2cc9d0872b0.png)
Mae’r label Newidiadau yn Aros (Pending Changes) yn ymddangos [1].
I gadw manylion yr asesiad, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].