Sut ydw i’n newid y dewis iaith yn fy nghyfrif defnyddiwr?
Saesneg yw iaith ddiofyn Canvas, ond gallwch ddewis gweld rhyngwyneb Canvas mewn iaith arall.
Sylwch:
- Gall addysgwyr newid y dewis iaith ar gyfer eu cyrsiau. Os ydych chi’n ymrestru ar gwrs lle mae'r addysgwr wedi newid yr iaith (ar gyfer cwrs iaith dramor gan amlaf), bydd iaith y cwrs yn disodli'r iaith yn eich gosodiadau defnyddiwr.
- Os byddwch chi’n newid eich dewisiadau iaith neu leoliad, mae’n bosib y bydd dyddiad dechrau wythnos y Calendr yn newid hefyd. Mae rhai ieithoedd neu leoliadau yn newid dyddiad dechrau wythnos y Calendr i ddydd Llun.
00:06: How do I change the language preference in my user account? 00:10: In Global Navigation, click the Account link. 00:14: Then click the Settings link. 00:17: Click the Edit Settings button. 00:20: In the Language drop-down menu, choose your preferred language. 00:24: Click the Update Settings button. 00:27: View Canvas in your preferred language. 00:30: This guide showed how to change the language preference in the user account.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr
![Agor Gosodiadau Defnyddiwr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/304/932/original/087a0df3-d31a-4727-ba4d-768c98229a9e.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Golygu Gosodiadau
![Golygu Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/514/052/original/a7ede689-fefb-4136-ae58-d95e663ca0c8.png)
Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).
Dewis Iaith
![Dewis Iaith](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/786/484/original/e7f8dbc4-152f-4521-9ceb-8c90c7f8ad83.png)
Yn y gwymplen Iaith (Language), dewiswch yr iaith o’ch dewis.
Diweddaru Gosodiadau
![Diweddaru Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/786/476/original/230f3e56-5e16-443e-91cf-fc0e8ec3f163.png)
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).