Sut ydw i’n gweld ffrwd Calendr iCal i danysgrifio i galendr allanol?
Mae ffrwd y Calendr iCal i’w gweld ar far ochr eich Calendr. Gallwch chi fewngludo URLy ffrwd iCal i unrhyw ap calendr sy’n gallu delio â’r fformat iCal, fel Google Calendar, Apple Calendar, Outlook, ac Yahoo Calendar. Gallwch chi hefyd lwytho ffrwd y calendr i lawr fel ffeil ICS a’i fewngludo i mewn i galendr allanol. Mae ffrwd y calendr yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas.
Sylwch:
- Bydd digwyddiadau hyd at 366 yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod yn cael ei gynnwys pan fyddwch yn allgludo calendr Canvas i raglen calendr arall. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
- Nid yw eitemau I’w Gwneud wedi’u cynnwys yn ffrwd y Calendr iCal.
- Ar ôl i chi fewngludo eich ffrwd calendr a'ch bod wedi ymrestru ar gwrs newydd, rhaid i chi ail-fewngludo'r ffrwd calendr i gynnwys calendr newydd y cwrs.
00:07: How do I view the calendar I Kelsey to subscribe to an external calendar 00:11: as a student. 00:13: In global navigation click the calendar link 00:17: Click the calendar feed link 00:20: To copy the link copy the text in the URL field. 00:24: To download the feed as an ICS file. 00:27: Click the click to view calendar feed link. 00:30: To subscribe to an external calendar paste the URL or 00:34: import the ICS file. 00:38: This guy covered how to view the calendar I Kelsey to subscribe to an external 00:42: calendar as a student.
Agor Calendr
![Agor Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/728/135/original/89a67921-b930-44be-8be3-f9c44ceaed78.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Agor Ffrwd Calendr
![Agor Ffrwd Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/775/417/original/f1032e87-6bfb-4782-877f-a53886dfdf3d.png)
Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).
Copïo Ffrwd Calendr
![Copïo Ffrwd Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/210/448/original/12be326c-78de-4a2d-981e-8443826a8182.png)
I gopïo’r ddolen, copïwch y testun yn y maes URL (URL field) [1].
I lwytho'r ffrwd i lawr fel ffeil ICS, cliciwch y ddolen Cliciwch i weld y Ffrwd Calendr (Click to view Calendar Feed) [2].
I danysgrifio i galendr allanol, gludwch yr URL neu fewngludo'r ffeil ICS.