Sut ydw i’n llwytho ffeiliau cyfryngau i fyny yn fy nghyfrif Canvas Studio?
Yn Canvas Studio, gallwch chi lwytho ffeiliau cyfryngau i fyny o’ch dyfais drwy lusgo a gollwng ffeil i dudalen Fy Llyfrgell (My Library) neu drwy ddefnyddio’r ddolen Ychwanegu Cyfryngau (Add Media). Mae Studio yn gallu delio a llwytho ffeiliau cyfryngau unigol i fyny, a gallwch chi lwytho ffeil cyfryngau unigol neu fwy nag un ffeil unigol ar y tro. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB Dysgwch fwy am fformatiau ffeiliau cydnaws.
Unwaith bod y ffeil cyfryngau wedi’i llwytho i fyny i Studio, gallwch chi ychwanegu anodiadau, rhannu mynediad, a rheoli’r cyfryngau gan ddefnyddio’r tab cyfryngau.
Mae Studio hefyd yn gallu delio ag ychwanegu fideos o YouTube a Vimeo drwy URL.
Sylwch: Mae gweinyddwyr yn gallu rhwystro defnyddwyr rhag llwytho cyfryngau i fyny o ddyfais. Gallwch ddysgu mwy am reoli hawliau yn Canvas Studio.
Lwytho Ffeiliau Cyfryngau i Fyny
I ychwanegu ffeil cyfryngau i unrhyw dudalen yn Studio, gallwch chi lusgo a gollwng ffeiliau o’ch cyfrifiadur [1].
I chwilio am ffeil cyfryngau ar eich cyfrifiadur, cliciwch y gwymplen Creu (Create) [2]. Yna cliciwch y ddolen Ychwanegu Cyfryngau (Add Media) [3].
Sylwch:
- Gallwch chi lwytho nifer o ffeiliau cyfryngau i fyny ar yr un pryd. Ond, dydy Studio ddim yn gallu llwytho ffeiliau wedi’u cywasgu (ZIP) i fyny. Y ffeil gyfryngau fwyaf y mae modd ei llwytho i fyny yw 10 GB Dysgwch fwy am fformatiau ffeiliau cydnaws.
- Mae gweinyddwyr yn gallu rhwystro defnyddwyr rhag llwytho cyfryngau i fyny o ddyfais. Gallwch ddysgu mwy am reoli hawliau yn Canvas Studio.
Pori Ffeiliau
Yn y ffenestr Ychwanegu at Fy Llyfrgell (Add to My Library), cliciwch y botwm Pori Ffeiliau (Browse Files) [1]. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu ychwanegu cyfryngau drwy URL YouTube neu Vimeo [2].
Llwytho Ffeil i Fyny
Dewiswch y ffeil cyfryngau rydych chi am ei lwytho i fyny [1]. Cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload) [2].
Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny
Gweld cynnydd y broses llwytho cyfryngau i fyny.
Gweld Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny
I weld y cyfryngau yn eich tudalen Fy Llyfrgell (My Library), hofrwch dros y teil rhagolwg, a chlicio'r ddolen Gweld (View).
Rheoli Cyfryngau
I rannu’r cyfryngau, llwytho’r cyfryngau i lawr, llwytho trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr, neu ddileu’r cyfryngau cliciwch y ddewislen Rhagor o Opsiynau (More Options) [1].
Gallwch chi reoli’r cyflymder chwarae cyfryngau a galluogi ac analluogi sylwadau o’r ddewislen Gosodiadau Cyfryngau (Media Settings) [2].
I weld y cyfryngau mewn llyfrgell neu gwrs, cliciwch y gwymplen Lleoliad Cyfryngau (Media Location) [3]. Os bydd y cyfryngau’n cael eu hychwanegu at gwrs, gallwch chi weld manylion cyfryngau sy’n benodol i gwrs.
Gallwch chi hefyd olygu manylion cyfryngau [4], gweld sylwadau [5], adolygu gwybodaeth a dadansoddi defnyddwyr [6], ac ychwanegu capsiynau [7].
Sylwch: I lwytho trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr, rhaid i’r opsiwn capsiynu fod wedi cael ei alluogi gan berchennog y cyfryngau.