Sut ydw i’n recordio fideo cipio sgrin yn Canvas Studio gyda phorwr Safari neu Firefox?

Yn Canvas Studio gallwch chi recordio cipio sgrin gan ddefnyddio porwr Safai neu Firefox. Mae modd cipio sgrin o unrhyw dudalen yn eich cyfrif. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd cipio sgrin i recordio cyfryngau am unrhyw hyd, yn dibynnu ar gof eich cyfrifiadur.

Dysgwch sut mae recordio fideo cipio sgrin Canvas Studio gyda phorwr Chrome neu Edge.

Nodiadau:

  • Y rhaglen cipio sgrin trydydd parti y mae Canvas yn gallu delio â hi yw Screencast-o-Matic (a elwir hefyd yn ScreenPal).
  • I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaeth y rhaglen cipio sgrin, ewch i fideos tiwtorial Screencast-o-Matic.
  • I gael rhagor o wybodaeth am sut mae darllenwyr sgrin yn gweithio gyda fideo cipio sgrin, ewch i Hygyrchedd yn Studio.
  • Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur Mac, addaswch y gosodiadau Diogelwch a Phreifatrwydd yn Newisiadau System eich Mac i ganiatáu recordio sgrin, a diweddaru eich Mac OS (system weithredu) i fersiwn 10.13 neu ddiweddarach. 
  • Fel gweinyddwr, efallai y byddwch chi’n gallu gosod y rhaglen cipio sgrin ar gyfer cyfrifiaduron Microsoft Windows.
  •  Os ydych chi’n defnyddio Chromebook, dysgwch am recordio fideo cipio sgrin ar Chromebook.

Agor Cipio Sgrin

Recordio Cipio Sgrin

Cliciwch y gwymplen Creu (Create) [1]. Yna cliciwch y ddolen Cipio Sgrin (Screen Capture) [2].

Llwytho i Lawr a Gosod Rhaglen Cipio Sgrin

Llwytho i Lawr a Gosod Rhaglen Recordio Sgrin

I recordio’r sgrin, llwythwch y rhaglen cipio sgrin i lawn a’i gosod. I lwytho’r rhaglen i lawr, cliciwch y botwm Llwytho i lawr (Download).

Nodyn: Os ydych chi wedi llwytho fersiwn gwahanol o’r rhaglen cipio sgrin i lawr, bydd angen i chi ddadosod y fersiwn flaenorol a llwytho’r fersiwn fwyaf diweddar i lawr o Studio.

Caniatáu Lansiwr Recordiwr Sgrin

Caniatáu Lansiwr Recordiwr Sgrin

I lansio’r recordiwr sgrin, cliciwch y ddolen Caniatáu (Allow).

Gweld Gosodiadau Cipio

Dechrau Cipio Sgrin

I reoli gosodiadau cipio sgrin, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) [1].

Yn ddiofyn, mae’r opsiwn recordio sgrin wedi’i ddewis [2]. I recordio gan ddefnyddio gwe-gamera, cliciwch yr opsiwn Gwe-gamera (Webcam) [3]. I recordio gan ddefnyddio cipio sgrin a’ch gwe-gamera, cliciwch yr opsiwn Y Ddau (Both) [4]

Gallwch chi osod maint personol ar gyfer y ddelwedd wedi’i recordio, neu gallwch chi recordio sgrin gyfan. I ddewis maint y ddelwedd wedi’i recordio, cliciwch y botwm Maint (Size) [5].

Yn ddiofyn, mae eich gosodiad meicroffon diofyn yn cael ei ddefnyddio i recordio sain. I newid y meicroffon, cliciwch y botwm Adroddiad (Narration) [6].

Yn ddiofyn, mae sain y cyfrifiadur wedi’i ddiffodd. I alluogi recordio synau system, cliciwch y botwm Sain Cyfrifiadur (Computer Audio) [7].

I reoli dewisiadau recordio ychwanegol, gan gynnwys rheoliadau bysellfwrdd, bysellau hwylus, a gosodiadau cyrchwr, cliciwch y botwm Dewisiadau (Preferences) [8].

Rheoli Rheoliadau Ysgrifennu a Nesáu

I agor y bar offer ysgrifennu a nesáu, cliciwch yr eicon Ysgrifennu (Draw) [1].

I ddefnyddio adnoddau ysgrifennu a nesáu, defnyddiwch yr eiconau yn y bar offer [2].

I gael rhagor o wybodaeth am adnoddau ysgrifennu a nesáu a rhestr o fyselli hwylus, cliciwch yr eicon Gwybodaeth (Information) [3].

Recordio Cipio

Rhewi Cipio Sgrin

Cliciwch y botwm Recordio (Record).

Rhewi Recordiad

Rhewi Recordiad

Cliciwch y botwm Rhewi (Pause).

Rhagweld a Rheoli Recordiad

Gorffen Cipio Sgrin

I weld rhagolwg o’r cipio sgrin, cliciwch y botwm Chwarae (Play) [1].

Mae’r stamp amser yn dangos [2]. I symud ymlaen ac yn ôl trwy’r fideo, cliciwch y botymau ymlaen ac yn ôl [3].

I ailddechrau’r recordiad, cliciwch y botwm Recordio (Record) [4].

I lwytho’r cipio sgrin i fyny, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [5].

I ddileu’r cipio sgrin a dechrau eto, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [6]

Llwytho Cipio Sgrin i Fyny

Cadw Cipio Sgrin

Rhowch enw ar gyfer y cipiad yn y maes Teitl (Title) [1] a disgrifiad byr o’r cipiaad yn y maes Disgrifiad (Description) [2]. Yna, cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload) [3].

I olygu’r cipiad, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [4].

I ddileu’r ffeil a dechrau cipio o'r newydd, cliciwch y ddolen Ailwneud (Redo) [5].

I ganslo’r cipiad, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [6].

Dychwelyd i Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny

Dychwelyd i Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny

Cliciwch y botwm Bwrw ymlaen (Continue).

Gweld Cipio Sgrin

Gweld Cipio Sgrin

Yn y dudalen Fy Llyfrgell, mae’r cipiad sgrin i’w weld. Ar ôl gorffen prosesu, gallwch chi reoli’r holl osodiadau a rheoliadau.