Sut ydw i'n mewngofnodi i fy nghyfrif Catalog?
Cyn y gallwch chi fewngofnodi i Canvas Catalog, rhaid i chi ymrestru ar gwrs neu raglen a chwblhau eich cofrestriad. Ar ôl gorffen cofrestru, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif Catalog o’r dudalen restru.
Os ydych chi’n cael trafferth mewngofnodi i'ch cyfrif:
- Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r URL cywir i fewngofnodi i’ch cyfrif Catalog. Mae’r URL hwn yn rhan o’ch e-bost cofrestru Catalog.
- Os nad oes gennych chi gyfrinair, rhaid i chi gwblhau eich cofrestriad ar gyfer cwrs neu raglen.
- Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch chi ei ailosod.
Agor Catalog
![Agor Catalog](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/607/335/original/6284163e-ad09-47d2-8fa8-36da49abe5ff.png)
Mewn ffenestr porwr, teipiwch URL Catalog eich sefydliad yn y bar cyfeiriad.
Mewngofnodi i Catalog
![Mewngofnodi i Catalog](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/217/994/original/bf78bfac-42ad-490f-ab47-9de5d4a63906.png)
Ar dudalen restru Catalog, cliciwch y ddolen Mewngofnodi (Login).
Mewngofnodi i Canvas
![Mewngofnodi i Canvas](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/842/173/original/b6913404-0964-4550-954e-06a0c3114e0a.png)
I fewngofnodi, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y maes E-bost (Email) [1], a’ch cyfrinair Canvas yn y maes Cyfrinair (Password) [2].
Yna cliciwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [3].
Sylwch: Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair Canvas, gallwch chi ei ailosod.
Gweld Tudalen Hafan Catalog
Mae tudalen hafan Catalog yn dangos.
I weld eich Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard), cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [1] a chlicio’r ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].