Sut ydw i’n gollwng cwrs neu raglen Canvas Network neu Catalog?

Mae defnyddwyr Catalog (gan gynnwys defnyddwyr Canvas Network) yn gallu gollwng ymrestriadau rhestr cwrs neu raglen o’u Dangosfwrdd Myfyriwr.

Os oes gan restriad ddyddiadau cychwyn a gorffen penodol, dim ond rhwng y dyddiadau hynny mae modd ei ollwng. Mae modd gollwng rhestriadau gyda dyddiadau agored ar unrhyw adeg. Os yw rhestriad, neu eich statws ymrestru mewn rhestriad wedi dod i ben, ni allwch chi ollwng y rhestriad mwyach.

Dim ond os gwnaethoch chi ymrestru’n uniongyrchol drwy Catalog eich sefydliad y gall rhestriadau gael eu gollwng. Os cawsoch chi eich ychwanegu gan addysgwr neu weinyddwr, rhaid i chi gysylltu â nhw a gofyn i gael eich tynnu o’r cwrs neu raglen.

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Agor Dangosfwrdd Myfyriwr

Cliciwch y gwymplen Defnyddiwr (User) [1]. Yna cliciwch y ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].

Agor Rhestriadau sydd ar waith

Rhestrau Agored Cyfredol, Wedi’u Cwblhau, neu Heb eu Cwblhau

I agor rhestriadau rydych chi wedi’u cychwyn, cliciwch y tab Ar Waith (In Progress) [1].

I agor rhestriadau nad ydych chi wedi’u cychwyn eto, cliciwch y tab Heb Gwblhau (Not Completed) [2].

Nodyn: Does dim modd i chi ollwng rhestriad wedi’i gwblhau.

Gollwng Cwrs neu Raglen

Chwiliwch am y cwrs neu’r rhaglen a chlicio’r eicon Gosodiadau [1]. Yna, cliciwch y ddolen Gollwng Rhaglen (neu Gwrs) (Drop Program (or Course)) [2].

Cadarnhau Gollwng

Cadarnhau Gollwng

Mae ffenestr gadarnhau yn ymddangos.

I gadarnhau'r cam gweithredu, cliciwch y botwm Gollwng (Drop).