Sut ydw i’n gweld tystysgrif gwblhau cwrs neu raglen Catalog?
Os oedd eich cwrs neu raglen yn cynnwys tystysgrif, gallwch chi weld a llwytho’r dystysgrif i lawr ar ôl i chi gwblhau’r cwrs neu raglen.
Mae tystysgrifau’n cael eu rhoi’n awtomatig ar ôl gorffen ac mae modd eu gweld ar unrhyw adeg.
Nodyn: Ar ôl i chi gwblhau cwrs neu raglen sy’n cynnwys tystysgrif, bydd dolen i’r dystysgrif hefyd yn cael ei hanfon i chi drwy e-bost.
Agor Dangosfwrdd Myfyriwr
![Agor Dangosfwrdd Myfyriwr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/191/951/original/open-student-dashboard-.png)
Cliciwch y gwymplen Enw Defnyddiwr (User Name) [1]. Yna cliciwch y ddolen Dangosfwrdd Myfyriwr (Student Dashboard) [2].
Agor Tab wedi’i Gwblhau
![Agor Tab wedi’i Gwblhau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/219/288/original/eba5d0ee-abc6-40b4-9a3f-163354968308.png)
Cliciwch y tab Wedi Cwblhau (Completed).