Sut ydw i’n ychwanegu cynllun graddau mewn cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi greu cynlluniau graddau ar gyfer pob cyfrif sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.

Ar ôl i gynllun graddau gael ei greu ar gyfer eich cyfrif, bydd addysgwr yn gallu cysylltu’r cynllun graddau â’u cyrsiau. Ond, ar ôl i gynllun graddau gael ei ddefnyddio i asesu myfyriwr, does dim modd i chi olygu’r cynllun graddau.

Sylwch: Mae unrhyw gynlluniau graddau rydych chi’n eu creu mewn cyfrif ar gael i’w defnyddio mewn isgyfrifon hefyd.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adran Graddio

Agor yr adran Graddio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).

Agor Cynlluniau Graddau

Agor Cynlluniau Graddau

Cliciwch y tab Cynlluniau Graddau (Grading Schemes).

Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd

Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cynllun Graddau Newydd (Add New Grading Scheme).

Golygu Cynllun Graddau

Golygu Cynllun Graddau

Creu teitl yn y maes Enw Cynllun Graddau (Grading Scheme Name) [1]. Gallwch chi ddewis cael cynllun graddio yn ôl canran neu bwyntiau [2]. Ar gyfer pob eitem llinell, golygwch enw’r cynllun graddau yn y maes Gradd Llythyren (Letter Grade) [3]. Golygwch isafswm pob ystod unigol yn y maes % I [Rhif] [4]

Ychwanegu Ystod

Ychwanegu Ystod

Os oes angen i chi ychwanegu ystodau, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [1]. Gallwch chi dynnu ystodau unigol drwy glicio'r botwm Dileu (Delete) [2]. Ar ôl i chi orffen golygu eich cynllun graddau, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].  

Addasu Cynllun Graddau (Modify Grading Scheme)

Bydd eich cynllun graddau newydd yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor yn y golofn Enw Cynllun Graddau (Grading Scheme Name) [1].

Gallwch chi ddyblygu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Dyblygu (Duplicate) [2], gallwch chi olygu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Golygu (Edit) [3], gallwch chi archifo’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Archifo (Archive) [4], a gallwch chi ddileu’r cynllun graddau drwy glicio’r eicon Dileu (Delete) [5].

Sylwch:

  • Dim ond cynlluniau graddau sydd heb gael eu defnyddio i raddio y mae modd eu golygu a’u dileu.
  • Os bydd cynlluniau graddio’n cael eu defnyddio i raddio myfyriwr mewn cwrs, ni fydd modd dileu’r cynllun o’r cyfrif.