Sut ydw i’n gosod manylion ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, mae’r tab Gosodiadau Cyfrif (Account Settings) yn cynnwys amryw o osodiadau y gallwch chi eu rheoli a’u newid yn eich cyfrif Canvas.

Nid yw'r holl osodiadau ac opsiynau ar gael i weinyddwyr isgyfrifon. Mae'r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol i weinyddwyr isgyfrifon:

  • Does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon reoli opsiynau’r cyfrif a’r gosodiadau cyfyngu canlynol: Cylchfa Amser Ddiofyn (Default Time Zone), Caniatáu Hunan-ymrestru (Allow Self-Enrollment), Label Mewngofnodi (Login Label), Cyfeirwyr HTTP Dibynadwy (Trusted HTTP referrers), Peidio â gadael i athrawon ailenwi eu cyrsiau (Don't let teachers rename their courses), Gall myfyrwyr ddewis optio i mewn i gael gwybod am sgôr mewn hysbysiadau e-bost (Students can opt-in to receiving scores in email notifications), a Rhwystro myfyrwyr rhag gweld cwestiynau cwis ar ôl y dyddiad y mae’r cwrs yn dod i ben (Restrict students from viewing quiz questions after course end date).
  • Dim ond Equella, Turnitin, Analytics, ac Avatars Defnyddwyr y gall gweinyddwyr isgyfrifon eu galluogi.
  • Does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon addasu dolenni ar gyfer y blwch deialog help fel mater o drefn.
  • Yn ddiofyn, does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon alluogi gwasanaethau gwe.
  • Yn ddiofyn, does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon ddewis pwy sy’n cael creu cyrsiau newydd.
  • Does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon alluogi rhagenwau personol o fewn isgyfrif.
  • Does dim modd i weinyddwyr isgyfrifon atal hysbysiadau rhag cael eu creu a’u hanfon allan.

Nodiadau: 

  • Nid yw holl opsiynau gosodiadau ar gael ar gyfer isgyfrifon.
  • Mae’r wers hon yn nodi’r gosodiadau y gallwch chi eu rheoli ar gyfer y cyfrif cyfan. Mae’n bosib y bydd integreiddiadau eraill ar gael gyda help eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Gweld Gosodiadau

Mae Gosodiadau Cyfrif yn mynd i’r tab Gosodiadau (Settings) yn ddiofyn. Yma gallwch weld yr holl fanylion sydd ar gael i chi yn eich cyfrif.

Gweld Gosodiadau Cyfrif

Mae’r adran Gosodiadau Cyfrif (Account Settings) yn gadael i chi bennu gosodiadau ar gyfer y cyfrif cyfan, gan gynnwys enw'r cyfrif [1], iaith ddiofyn [2], amser erbyn diofyn [3], cylchfa amser ddiofyn [4], ac hunan-ymrestru [5].

Hefyd, gallwch bennu URL dibynadwy yn y cyfrif gwraidd [6]. Mae’r opsiwn hwn yn gadael i gyfrifon gael tudalennau mewngofnodi personol sy’n cael eu lletya ar wahanol barthau ond sy’n dal yn cadw’r tocyn dilysrwydd.

Gallwch osod gwedd ddiofyn i’r Dangosfwrdd gan ddefnyddio’r gwymplen Gwedd Ddiofyn i’r Dangosfwrdd (Default View for Dashboard) [7]. Mae opsiynau diofyn yn cynnwys Gweithgarwch Diweddar (Recent Activity), Gwedd Rhestr (List View), a Gwedd Cardiau (Card View). Mae gosodiadau cyfrif yn mynd i’r Wedd Cardiau (Card View) yn ddiofyn. Mae pennu gwedd ddiofyn yn berthnasol i bob defnyddiwr cyfrif newydd. Ar ôl i ddefnyddiwr ddewis gwedd wahanol, ni fydd y rhagosodiad yn berthnasol mwyach. Os ydych chi am i bob defnyddiwr yn y cyfrif gael y wedd ddiofyn dan sylw, dewiswch y blwch ticio Disodli dewisiadau dangosfwrdd diofyn presennol pob defnyddiwr (Overwrite all users’ existing default dashboard preferences) [8]. Ond, mae modd i ddefnyddwyr newid gwedd eu dangosfwrdd unrhyw bryd yn newislen opsiynau’r dangosfwrdd.

Gweld Tudalen Gynnal a Chadw

Gweld Tudalen Gynnal a Chadw

Mae’r gosodiadau Cylchfa Amser Diofyn hefyd yn dangos y ffenestri cynnal a chadw ar gyfer eich cyfrif. Gallwch chi ddisgwyl i unrhyw waith cynnal a chadw ar gyfer eich cyfrif ddigwydd o fewn y ffenestr gynnal a chadw, oni bai bod angen gwaith cynnal a chadw brys. Er bod y ffenestri yn ddwy awr o hyd, dim ond am ychydig funudau fydd eich cyfrif ddim ar gael. Mae hefyd yn bosib na fydd angen gwaith cynnal a chadw yn ystod y ffenestr cynnal a chadw sydd wedi’i threfnu ar eich cyfer.

Gallwch chi weld yr amser arferol ar gyfer eich ffenestr cynnal a chadw [1] ynghyd a dyddiad ac amser eich ffenestr cynnal a chadw nesaf [2].

Gweld Gosodiadau Cyfyngu

Gweld Gosodiadau Cyfyngu

Hefyd, gallwch reoli gosodiadau cyfyngu ar gyfer y cyfrif cyfan.

Os nad ydych am i addysgwyr allu ailenwi eu cyrsiau, cliciwch y blwch ticio Peidio â gadael i athrawon ailenwi eu cyrsiau (Don't let teachers rename their courses) [1].

Os nad ydych chi am i addysgwyr allu addasu dyddiadau ar gael cwrs, cliciwch y blwch ticio Peidio â gadael i athrawon addasu dyddiadau ar gael cwrs (Don't let teachers modify course availability dates) [2]. Dydy’r blwch ticio ddim yn ymddangos ar dudalen Gosodiadau Cyfrif is-gyfrifon.

I adael i fyfyrwyr optio i mewn i dderbyn sgorau fel rhan o hysbysiadau graddio, cliciwch y blwch ticio Gall myfyrwyr optio i mewn i dderbyn sgorau mewn hysbysiad e-bost (Students can opt-in to receving scores in email notifications) [3]. Pan fydd yr opsiwn hwn wedi’i alluogi, bydd tudalen Gosodiadau Hysbysiadau defnyddiwr yn dangos blwch ticio optio i mewn yn yr adran Graddio Gweithgareddau Cwrs. Os byddwch chi’n galluogi’r opsiwn hwn ond yn ei analluogi rywbryd eto, bydd y blwch ticio’n cael ei dynnu o’r dudalen hysbysiadau, ac ni fydd unrhyw un sydd wedi optio i mewn yn derbyn sgorau mewn hysbysiadau graddio.

Os nad ydych chi am i fyfyrwyr allu gweld cwestiynau cwis ar ôl i’w cwrs orffen, yna cliciwch y blwch ticio Atal myfyrwyr rhag gweld cwestiynau cwis ar ôl dyddiad gorffen y cwrs (Restrict students from viewing quiz questions after course end date) [4].

Gallwch ddewis cyfyngu ar fynediad myfyrwyr at gyrsiau cyn dyddiad dechrau’r cwrs [5].

Hefyd, gallwch ddewis cyfyngu ar fynediad myfyrwyr at gyrsiau cyn dyddiad gorffen y cwrs [6].

Gallwch chi gyfyngu ar allu myfyrwyr ac arsyllwyr i weld data meintiol [7].

Hefyd, gallwch analluogi sylwadau ar gyhoeddiadau ym mhob cwrs [8].

Gallwch alluogi Lwybrau Meistroli ar gyfer cyrsiau addysgwyr [9]. Mae Llwybrau Meistroli yn caniatáu i hyfforddwyr addasu profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr yn seiliedig ar berfformiad.

I ganiatáu i fyfyrwyr lwytho cynnwys cwrs i lawr a gweld cynnwys pob cwrs pan dydyn nhw ddim ar-lein, dewiswch y blwch ticio Gadael i fyfyrwyr lwytho cynnwys cwrs i lawr a’i weld pan dydyn nhw ddim ar-lein (Allow students to download course content and view offline) [10]. Neu, os fyddai’n well gennych chi adael i fyfyrwyr lwytho cynnwys cwrs i lawr a gweld cynnwys cwrs penodol pan dydyn nhw ddim ar-lein, galllwch chi alluogi’r opsiwn nodwedd Allgludo ePub ar gyfer y cwrs.

Gallwch fynnu bod gwybodaeth am hawlfraint a thrwydded yn cael ei darparu ar gyfer ffeiliau cyn iddynt gael eu cyhoeddi [11].

Gallwch chi hefyd analluogi cyfryngau sydd wedi’u llwytho i fyny i Canvas yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [12].

Gallwch chi adael i arsyllwyr gofrestru ar gyfer apwyntiadau pan maen nhw wedi’u galluogi gan yr athro [13].

Gallwch chi alluogi’r opsiwn i rannu enwau myfyrwyr yn ddwy golofn a dangos enwau cyntaf a chyfenwau ar wahân yn y llyfr graddau [14].

Gallwch chi adael i ddefnyddwyr gyflwyno e-bost ychwanegol wrth gofrestru [15].

Gweld Allweddi API Slack

Gweld Allweddi API Slack

Gallwch chi ychwanegu allwedd API Slack yng Ngosodiadau’r Cyfrif er mwyn i ddefnyddwyr gael hysbysiadau yn Slack. Mae Allwedd API Slack yn cael ei chynhyrchu o ap sy’n cael ei greu yn defnyddio API Slack. I ychwanegu Allwedd API Slack newydd, teipiwch y Tocyn Mynediad Awdurdodi Defnyddiwr Bot wedi’i gopïo o Slack yn y maes Allwedd Api Newydd Slack (New Slack Api Key).

Dysgwch fwy am greu Ap Slack ar gyfer eich sefydliad.

Nodyn: Mae creu Ap Slack a chynhyrchu Tocyn Mynediad yn gofyn eich bod chi hefyd yn ddefnyddiwr gweinyddol yn Slack.

Gweld Rhagenwau Personol

Gweld Rhagenwau Personol

Mae’r adran Rhagenwau Personol yn gadael i chi alluogi ac addasu opsiynau rhagenwau personol yn eich cyfrif. Pan fydd wedi’i alluogi, bydd defnyddwyr yn gallu dewis rhagenw i i'w ddangos ar ôl eu henw defnyddiwr mewn sawl rhan o Canvas.

Gweld Hidlyddion Cyfeiriad IP Cwis

Gweld Hidlyddion Cyfeiriad IP Cwis

Mae’r hidlydd Cyfeiriad IP Cwis (Quiz IP Address) yn gadael i weinyddwr greu rhestr barod o gyfeiriadau IP neu ystod o gyfeiriadau, gan ei gwneud yn haws i addysgwyr ddewis gosodiad dilys wrth greu cwis. Gan fod hyn yn aml yn cael ei ddefnyddio gan sefydliad i gyfyngu profion i ganolfan arholi ar y campws, mae’n cael ei argymell eich bod chi’n defnyddio enw disgrifiadol sy’n cysylltu eich hidlydd gyda’r lleoliad hwnnw.

Mae hidlyddion yn gallu bod yn rhestr o gyfeiriadau wedi’u gwahanu gydag atalnodau, neu’n gyfeiriad a ddilynir gan fasg (ee 192.168.217.1/24 neu 192.168.217.1/255.255.255.0). Am ragor o wybodaeth am y masgiau hyn, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hidlo IP yn Canvas.

Gweld Nodweddion

Mae’r adran Nodweddion (Features) yn gadael i chi alluogi neu analluogi swyddogaeth Canvas benodol sydd wedi’i gosod yn barod.

I alluogi Canvas ar gyfer Cynradd, dewiswch y blwch ticio Canvas ar gyfer Cynradd (Canvas for Elementary) [1].

I adael i isgyfrifon ddefnyddio’r Golygydd Thema (Theme Editor), dewiswch y blwch ticio Gadael i isgyfrifon ddefnyddio’r Golygydd Thema i bersonoli eu brandiau eu hunain (Let sub-accounts use the Theme Editor to customize their own branding) [2].

I adael i ddefnyddwyr gael eu hychwanegu at gwrs gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost heb orfod bod â chyfrif defnyddiwr Canvas yn barod, dewiswch y blwch ticio Cofrestru Agored (Open Registration) [3].

I adael i ddefnyddwyr olygu eu henwau fel rhan o osodiadau eu cyfrif defnyddiwr, dewiswch y blwch ticio Mae myfyrwyr yn gallu golygu eu henw (Users can edit their name) [4].

Mewn Cyfrif Gwraidd (Root Account), gall gweinyddwr analluogi defnyddwyr rhag golygu sianeli cyfathrebu. Hefyd, pan fydd proffiliau wedi’u galluogi gan sefydliad, gall gweinyddwr analluogi defnyddwyr rhag golygu eu proffiliau. Yn ddiofyn, mae’r blychau ticio Mae defnyddwyr yn gallu golygu eu proffiliau (Users can edit their profiles) [5] a Mae defnyddwyr yn gallu golygu gosodiadau eu sianeli cyfathrebu (Users can edit their communication channels settings) [6] wedi’u galluogi.

I adael i ddefnyddwyr ddileu’r cyfeiriad e-bost a ychwanegwyd gan y sefydliad yn eu cyfrif defnyddiwr a defnyddio cyfeiriad e-bost personol, dewiswch y blwch ticio Mae defnyddwyr yn gallu dileu’r cyfeiriad e-bost maen nhw wedi’i gael gan y sefydliad (Users can delete their institution-assigned email address) [7]. Os yw’r nodwedd hon wedi’i dewis, ystyriwch alluogi’r hysbysiad e-bost nad yw’n gysylltiedig â sefydliad hefyd.

I ddangos cyfeiriad e-bost yr anfonwr er mwyn cael Hysbysiadau (Show the email address of sender for user interaction Notifications) rhyngweithio, blwch ticio [8].

I ddangos rhestr o gyrsiau y mae modd chwilio drwyddi yn y cyfrif gwraidd pan fydd gosodiad mynegai cyrsiau cyhoeddus wedi’i alluogi, dewiswch y blwch ticio Dangos rhestr o gyrsiau y mae modd chwilio drwyddi yn y cyfrif gwraidd hwn gan alluogi’r fflag "Cynnwys y cwrs hwn yn y mynegai cyrsiau cyhoeddus" (Show a searchable list of courses in this root account with the "Include this course in the public course index" flag enabled) [9].

I alluogi hysbysiadau marchnata ar gyfer dyfais symudol, dewiswch y blwch ticio Galluogi hysbysiadau marchnata i ddyfeisiau symudol (Enable push notifications to a mobile devices) [10].

I dynnu'r gêm gudd o Canvas, dewiswch y blwch ticio Tynnu'r gêm gudd o dudalen 404 (Remove hidden game from 404 page) [11].

I atal hysbysiadau rhag cael eu creu a’u hanfon allan o’ch Cyfrif Gwraidd, cliciwch y blwch ticio Atal hysbysiadau rhag cael eu creu a’u hanfon allan (Suppress notifications from being created and sent out) [12].

I adael i ddefnyddwyr integreiddio cynnwys gydag Equella, dewiswch y blwch ticio Equella [13].

I alluogi dadansoddi’r cyfrif, dewiswch y blwch ticio Dadansoddi (Analytics) [14].

I adael i ddefnyddwyr lwytho llun proffil i fyny i’w cyfrif defnyddiwr, dewiswch y blwch ticio Avatar Defnyddiwr (User Avatars) [15]. Pan fydd y nodwedd hon wedi’i galluogi, gallwch reoli lluniau proffil ar gyfer pob defnyddiwr. Mae’r nodwedd hon yn annibynnol ar y nodwedd Proffiliau, sy’n gorfod cael ei galluogi gan y Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.

Pan fydd y blwch ticio Avatar Defnyddiwr wedi’i ddewis, bydd y blwch ticio Galluogi Gravatar (Enable Gravatar) wedi’i ddewis yn ddiofyn [16].  Mae Gravatar yn avatar sy’n cael ei adnabod yn rhyngwladol ac sy’n gysylltiedig â defnyddiwr mewn unrhyw wefan sy’n gallu delio â Gravatars. Pan fydd Gravatars wedi’u galluogi mewn cyfrif, mae modd i ddefnyddwyr fewngludo eu Gravatar wrth ddewis llun proffil ar eu tudalen gosodiadau defnyddiwr. Mae Gravatars yn gysylltiedig â chyfeiriad e-bost Gravatar y defnyddiwr. Pan fydd Gravatars wedi’u hanalluogi, ni fydd y tab O Gravatar (From Gravatar) wedi’i gynnwys fel opsiwn yn y ffenestr Dewis Llun Proffil (Select Profile Picture).

Gweld Gosodiadau Allgludo Gradd SIS

Gweld Gosodiadau Allgludo Gradd SIS

Os ydych chi wedi integreiddio eich cyfrif gyda system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), yna’n dibynnu ar ffurfweddiad eich sefydliad, gallwch un ai ffurfweddu cyflwyniadau SIS ar gyfer eich cyfrif cyfan [1] neu reoli gosodiadau integreiddio SIS [2].

Gweld Platfform Canfod Tebygrwydd

Mae’r Platfform Canfod Tebygrwydd i’w weld gan bob cyfrif ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer integreiddiadau ag adnoddau LTI llên-ladrad.

Os yw eich cyfrif wedi gosod o leiaf un adnodd LTI llên-ladrad, bydd unrhyw gynnwys rydych chi’n ei roi yn y maes testun Addewid Tebygrwydd (Similarity Pledge) yn ymddangos i fyfyrwyr [1]. Mae Addewidion Tebygrwydd (Similarity Pledge) yn gofyn i fyfyrwyr dicio blwch yn cydnabod eu bod yn cytuno â gwybodaeth yr addewid, sydd fel arfer yn gofyn iddyn nhw gadarnhau mai nhw sydd wedi gwneud y gwaith a bod ffynonellau wedi cael eu cydnabod yn iawn.

Gallwch hefyd osod y sgôr gwreiddioldeb yn ddiofyn ar gyfer y cyfrif cyfan yn y gwymplen Gall myfyrwyr weld sgôr gwreiddioldeb (Students can see originality score) [2]. Gallwch drefnu bod adroddiad yn cael ei greu yn syth ar ôl i aseiniad gael ei gyflwyno, ar ôl i aseiniad gael ei raddio, ar ôl dyddiad erbyn aseiniad, neu byth. Does dim rhaid defnyddio gosodiad diofyn y cyfrif, ac mae modd ei newid ar unrhyw lefel arall. Mae modd i isgyfrifon bennu gosodiad diofyn gwahanol i’r cyfrif, ac mae modd i aseiniadau unigol o fewn cwrs osod eu dewisiadau gwreiddioldeb eu hunain hefyd.

Gweld Gwasanaethau Gwe

Gweld Gwasanaethau Gwe

Yr adran Gwasanaethau Gwe wedi’u Galluogi (Enabled Web Services) yw lle rydych chi'n galluogi integreiddiadau gan drydydd parti. Mae modd defnyddio’r integreiddiadau hyn i ymestyn swyddogaethau proffil Canvas y defnyddiwr. Er enghraifft, pan fydd defnyddiwr yn cysylltu ei gyfrif Twitter â’i broffil defnyddiwr ar Canvas, bydd Canvas yn gallu anfon negeseuon Twitter preifat at y defnyddiwr hwnnw am gwisiau, negeseuon, aseiniadau newydd, ac ati. Mae modd ffurfweddu hyn i gyd yng Ngosodiadau Hysbysiadau’r defnyddiwr.

Nodyn: Os byddwch chi’n galluogi’r LTI Google Apps ar gyfer eich sefydliad cyfan, yna fydd dim angen i chi alluogi gwasanaeth gwe Google Drive i’ch myfyrwyr.

Gweld Templed Cwrs

Gweld Templed Cwrs

Os yw cwrs wedi cael ei neilltuo fel templed cwrs, gallwch chi ddewis y templed i’w ddefnyddio ar gyfer pob cwrs newydd yn eich cyfrif neu is-gyfrif.

Gweld Pwy sy’n gallu creu cyrsiau newydd

Gweld Pwy sy’n gallu creu cyrsiau newydd

Gallwch ddewis pwy sy'n gallu creu cyrsiau newydd o fewn eich cyfrif yn ogystal â gweinyddwyr cyfrif. Mae’r gosodiad hwn yn gadael i’r defnyddwyr a ddewiswyd greu cregyn cwrs newydd drwy glicio'r botwm Creu Cwrs Newydd (Create a New Course) yn y Dangosfwrdd.

Gallwch chi adael i athrawon [1], myfyrwyr [2], a/neu ddefnyddwyr heb ymrestriadau greu cyrsiau yn eich cyfrif.

Gallwch chi hefyd reoli lle mae’r cyrsiau newydd sydd wedi’u creu gan athrawon a myfyrwyr yn cael eu rhoi. I adael i gyrsiau gael eu creu mewn unrhyw gyfrif lle mae gan athro neu fyfyriwr ymrestriad gweithredol, cliciwch y blwch ticio Caniatáu creu lle mae gan y defnyddiwr ymrestriad gweithredol (Allow creation anywhere the user has active enrollments) [4]. I adael i gyrsiau gael eu creu yn yr is-gyfrif Cyrsiau sydd heb gael eu creu’n awtomatig yn unig, cliciwch y blwch ticio Caniatáu creu yn yr is-gyfrif Cyrsiau sydd heb gael eu creu’n awtomatig yn unig (Allow creation only in the Manually-Created Courses sub-account) [5].

Mae cyrsiau wedi’u copïo yn cael eu hychwanegu at yr un isgyfrif â’r cwrs a gafodd ei gopïo.

Nodyn: Mae gweinyddwyr cyfrif bob amser yn gallu creu cyrsiau.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).