Sut ydw i'n rheoli'r dudalen Hawliau?

Fel gweinyddwr, gallwch adolygu a rheoli hawliau ar gyfer rolau defnyddiwr lefel y cwrs a lefel y cyfrif. Yn dibynnu ar y rôl defnyddiwr, mae'n bosib y byddwch am olygu'r hawliau diofyn a gosod hawliau personol i rôl defnyddiwr yn eich cyfrif. Mae hawliau yn caniatáu neu'n rhwystro mynediad at nodweddion penodol o fewn cyfrif a chwrs.

Nodiadau:

  • Mae'n bosib na fydd rhai hawliau ar gael ar gyfer is-gyfrifon. I ddysgu mwy am hawliau a chyfyngiadau is-gyfrifon, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Cyfrif ac Is-gyfrif.
  • Pan fyddwch chi’n newid hawl, gall gymryd 30 munud neu fwy i’r hawl hwnnw ddod i rym. Os nad yw’r newidiadau disgwyliedig yn ymddangos yn sych, rhowch gynnig arall arni mewn peth amser.
  • Mae cyfrifon consortiwm plentyn yn etifeddu rolau a hawliau o’r cyfrif rhiant. Mae cyfrifon plentyn yn gallu golygu unrhyw rolau a hawliau sydd wedi’u datgloi.  

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Hawliau

Clicio Dolen Hawliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Hawliau (Permissions).

Gweld Hawliau

Gweld Tudalen Hawliau

Yn ddiofyn, mae'r dudalen hawliau yn dangos hawliau rôl defnyddiwr ar lefel y cwrs [1].

I weld hawliau rôl defnyddiwr lefel y cyfrif, cliciwch y tab Rolau Cyfrif (Account Roles) [2].

Chwilio a Hidlo Hawliau

I chwilio am hawl benodol, teipiwch enw hawl yn y maes Chwilio (Search) [1]. Mae'r maes chwilio yn defnyddio hidlo rhagfynegol.

Gallwch hefyd hidlo hawliau yn ôl rôl. Yn ddiofyn, mae'r dudalen Hawliau yn dangos pob rôl defnyddiwr. I hidlo hawliau ar gyfer rôl defnyddiwr benodol, teipiwch neu ddewis enw'r rôl defnyddiwr o'r ddewislen Hidlydd yn ôl Rôl Hawliau (Permission Role Filter) [2].

Gallwch ddefnyddio'r opsiynau chwilio a hidlo i chwilio am hawliau ar gyfer rolau defnyddiwr penodol.

Gweld Hawl Unigol

I weld gwybodaeth am hawl benodol, cliciwch enw'r hawl.

Gweld Manylion Hawl Ychwanegol

Gweld Gwybodaeth Hawl Ychwanegol

Mae bar ochr yn hawliau yn dangos enw'r hawl [1].

Gallwch weld a chrebachu manylion penodol am yr hawl trwy glicio'r eiconau saeth Beth mae'n ei wneud (What it Does) ac Ystyriaethau Ychwanegol (Additional Considerations) [2]. Cofiwch na fydd rhai hawliau yn cynnwys y manylion hyn.

Mae'r bar och hefyd yn dangos yr adran Rolau sydd wedi’u Neilltuo (Assigned Roles) [3], sy'n dangos yr holl rolau sydd wedi'u galluogi ar gyfer yr hawl, a'r adran Rolau heb eu Neilltuo (Unassigned Roles) [4], sy'n dangos yr holl rolau sydd wedi'u hanalluogi ar gyfer yr hawl.

Rheoli Hawl Unigol

Rheoli Hawl Unigol

I reoli rolau defnyddiwr ar gyfer yr hawl, cliciwch yr eicon wrth enw rôl defnyddiwr [1]. Yn y ddewislen hawliau [2], bydd marc tic wrth ymyl yr hawl sy’n bodoli’n barod.

Dewiswch statws hawl newydd trwy glicio un o'r opsiynau hawliau: Galluogi neu Analluogi. Ar ôl i chi alluogi neu analluogi’r caniatâd, gallwch chi ddewis cloi statws y caniatâd. I gloi statws yr hawl, cliciwch yr opsiwn Cloi (Lock) [3]. Mae opsiynau wedi eu cloi yn atal y gosodiad rhag cael ei newid gan weinyddwyr isgyfrifon mewn cyfrif is. Bydd statws hawl newydd yn cael ei gadw’n awtomatig.

Note: Os nad yw eicon hawl yn ymddangos fel un sydd wedi'i phylu, does dim modd i chi newid yr hawl [4].

Gweld Caniatâd mewn Grŵp

Mae’n bosib bydd rhai hawliau yn cael eu grwpio er mwyn cael gwell gafael a rheolaeth dros y caniatâd.

Mae caniatâd mewn grŵp yn rhestru’r caniatadau mewn grŵp o dan enw’r grŵp [1].

I ehangu hawliau grŵp, cliciwch yr eicon Ehangu (Expand) [2].

Rheoli Caniatâd mewn Grŵp

Gallwch chi reoli pob elfen o ganiatâd mewn grŵp gyda’r blychau ticio cyfatebol. Er mwyn galluogi neu analluogi pob elfen o’r caniatâd, cliciwch y blwch ticio [1]. Mae tic yn y blwch yn dangos bod y caniatâd wedi’i alluogi [2]. Os nad oes tic yn y blwch, mae’r caniatâd wedi’i analluogi [3].

Os yw pob caniatâd wedi’u galluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd eicon tic yn ymddangos ger y grŵp caniatâd [4].

Os bydd rhai caniatadau wedi’u galluogi ac eraill wedi’u hanalluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd grŵp caniatâd yn ymddangos gydag eicon ar ei hanner [5].

Os bydd pob caniatâd wedi’u hanalluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd eicon X yn ymddangos ger y grŵp [6].

Gweld a Rheoli Hawliau Rôl Defnyddiwr Unigol

I weld yr holl hawliau sydd wedi'u neilltuo i rôl benodol, cliciwch enw'r rôl [1]. Gallwch reoli hawliau ar gyfer rolau lefel y cyfrif a rheoli hawliau ar gyfer rolau lefel y cwrs.

I ychwanegu rôl lefel y cyfrif neu ychwanegu rôl lefel y cwrs, ewch i'r tab ar gyfer y rôl briodol a chlicio'r botwm Ychwanegu Rôl (Add Role) [2].